Mae'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol (LACM16) sy'n cael ei gynnig fel rhan o’n rhaglenni LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach, wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (CIArb)

Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr ar raglenni LLM Abertawe sy'n cwblhau'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus yn Abertawe'n gymwys i gael eu derbyn i lefel Aelod Cysylltiol y Sefydliad. Mae gan y CIArb 16,000 o aelodau sy'n weithredol mewn ffurfiau amrywiol ar ddatrys anghydfod drwy ddulliau amgen mewn 149 o wledydd. Hwn yw'r sefydliad proffesiynol mwyaf blaenllaw sy'n gweithio i hyrwyddo, hwyluso a datblygu'n fyd-eang bob ffurf ar ddatrys anghydfod yn breifat drwy rwydwaith rhyngwladol. Mae'r CIArb yn cynnig aelodaeth ar dair lefel: Aelod Cysylltiol, Aelod a Chymrawd.

Dyma gydnabyddiaeth bellach o'r parch sydd gan sefydliadau proffesiynol ac academaidd at raddau LLM Abertawe. O ganlyniad i'r achrediad hwn, mae'n sicr y bydd y modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol hyd yn oed yn fwy poblogaidd ymhlith myfyrwyr sy'n astudio yn Abertawe fel rhan o'u graddau LLM:

Yn siarad ar ôl clywed am y gydnabyddiaeth, meddai'r Athro Cysylltiol George Leloudas, Cydlynydd y modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol:

"Rydym yn falch iawn bod y Sefydliad wedi adnewyddu ein statws RCP, sy'n dyst i ansawdd y cwrs. Edrychwn ymlaen at barhau i'w addysgu i'n carfan frwdfrydig yn y blynyddoedd i ddod".

Rhannu'r stori