Mae Comisiynydd Plant Jersey wedi cyhoeddi adroddiad newydd o'r enw 'A Legislative Gap Analysis', ar sut mae deddfwriaeth yn Jersey yn cydymffurfio â rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Paratowyd yr adroddiad gan yr Athro Simon Hoffman a Sally Sellwood o'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, sy'n rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Dyma ddiweddglo blwyddyn o ymchwil, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2019.

Gofynnodd y Comisiynydd Plant i'r Arsyllfa gynnal y dadansoddiad er mwyn tynnu sylw at feysydd deddfwriaeth y mae angen sylw arnynt, er mwyn sicrhau bod Cyfraith Jersey yn cydymffurfio â'r CCUHP.

Gallwch weld yr adroddiad yma.

Mae Comisiynydd Plant Jersey wedi disgrifio'r adroddiad fel

"Dadansoddiad cynhwysfawr, annibynnol o'r graddau y mae deddfwriaeth Jersey yn cydymffurfio â'r CCUHP. Am y tro cyntaf, mae gennym ddealltwriaeth glir o ble mae ein cyfreithiau yn bodloni disgwyliadau Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig, a lle nad ydynt yn eu cyrraedd o hyd."

Gallwch ddarllen yr hyn a  ddywedodd y Comisiynydd am yr adroddiad.

Bydd canfyddiadau'r ymchwil a nodir yn yr adroddiad yn llywio rhaglen diwygio deddfwriaethol yn Jersey i wneud i gyfraith Jersey gydymffurfio'n fwy â'r CCUHP. Mae'n enghraifft o ymchwil ag effaith uchel a fydd o fudd i blant a phobl ifanc yr ynys.

Meddai prif awdur yr adroddiad, yr Athro Simon Hoffman:

"Mae ein hymchwil yn rhoi'r dystiolaeth y mae ei hangen ar Lywodraeth Jersey i wneud cynnydd o ran rhoi hawliau plant ar waith drwy ddeddfwriaeth."

Mae Gweinidog Plant Jersey, y Seneddwr Sam Mezec, wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud y bydd yn helpu'r ynys i "fapio ei thaith at ymgorffori'r CCUHP."

Rhannu'r stori