Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn cyflwyno cynllun interniaeth yr haf â thâl yn dilyn cyfweliadau datblygu â’r nod o gynorthwyo gyda sgiliau cyflogadwyedd. Fel rhan o’r interniaeth, gweithiodd tri myfyriwr y Gyfraith, Callum Morton, Lawrence Thomas a Sioned Williams, gyda’r Athro Michael Draper, sy’n arbenigwr ar grŵp cynghori uniondeb academaidd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).

Gweithiodd yr Athro Draper gyda’r interniaid sy’n fyfyrwyr ar ddogfennaeth newydd y QAA a oedd yn ymwneud â thwyll contractau, cwynion ac apeliadau. Mae’r canllawiau hyn ar gwynion ac apeliadau newydd gael eu cyhoeddi gan y QAA, a chydnabuwyd gwaith y myfyrwyr. Ar y cyd â Swyddog Llawn Amser Undeb y Myfyrwyr, Theresa Ogbekhiulu, rhoddwyd cyflwyniad ganddynt yng nghynhadledd myfyrwyr y QAA yn ddiweddar hefyd.

Yn sgîl pandemig Covid-19, mae llawer o sefydliadau AU wedi addasu eu polisïau a’u harferion i sicrhau nad yw ffactorau y tu hwnt i reolaeth myfyrwyr yn eu rhoi dan anfantais. Mae’r papur QAA newydd hwn yn ystyried y materion sy’n dod i'r amlwg ym maes cwynion ac apeliadau myfyrwyr, sut mae sefydliadau yn cyfathrebu â myfyrwyr a pha wersi defnyddiol a ddysgwyd sy’n gallu cael eu defnyddio i wella profiad myfyrwyr yn y dyfodol.

O ganlyniad i hyn, a thrwy ei gwaith gyda’r QAA ac UKAT, mae Prifysgol Abertawe wedi arwain ymateb addysgu i Covid-19 yn y DU ac wedi gwneud hynny drwy weithio gyda myfyrwyr fel partneriaid.

Yn siarad am y canllawiau newydd, dywedodd yr Athro Draper:

“O ran amgylchiadau ymateb AU i Covid-19 a symud i addysgu ac asesu ar-lein, sy’n debygol o barhau i ryw raddau i’r flwyddyn academaidd nesaf, mae’r canllawiau newydd ar gwynion ac apeliadau’n briodol iawn o ran amseru ac yn ddefnyddiol iawn, gan amlygu a cheisio datblygu arfer gorau yn y sector.”

Yn siarad am gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael yn Ysgol y Gyfraith, meddai Trish Rees, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd:

“Mae’r cynllun interniaethau a gynigir fel rhan o’r Agenda Cyflogadwyedd wedi cael ei gynnal yn llwyddiannus ers saith mlynedd ac mae’n un o’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr Ysgol. Mae’r interniaeth â thâl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ochr yn ochr â chydweithiwr academaidd mewn maes o ddiddordeb iddynt, gan ymgymryd ag ymchwil ac yn aml gyfrannu at gyhoeddi erthygl. Rydym wrth ein boddau i allu parhau i gynnig y fenter hon eleni, yn enwedig yn sgîl cyfyngiadau Covid-19. Mae’r interniaeth yn ychwanegiad gwych i CV gan ei bod hi’n dangos sgiliau megis cyfathrebu, ymchwil, drafftio a gwaith tîm i gyflogwyr ac yn rhoi rhywbeth diddorol i’w drafod mewn cyfweliad!”

Rhannu'r stori