Eleni rydyn ni’n dathlu 5 mlynedd ers cyhoeddi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a ystyrir yn eang yn ddeddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy sy’n arwain yn fyd-eang.

I gofnodi’r achlysur hwn mae lluniwr y Ddeddf hon, Jane Davidson, wedi cyhoeddi llyfr #futuregen: Lessons from a Small Country.

Yn ei llyfr mae hi’n cyfeirio at y foment ‘croen gwŷdd’ pan sylweddolodd hi fod y syniad hwn wedi’i gyflwyno dros ddegawd yn flaenorol cyn iddo gael ei ystyried gan Aelodau Cynulliad Cymru gan Victoria Jenkins, sydd bellach yn Athro Cysylltiol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Cyhoeddodd Victoria bapur yn 2002 yn awgrymu "byddai dyletswydd gyfreithiol parthed datblygu cynaliadwy yn gweithredu fel addysgwr grymus i bawb yn y gymdeithas ac yn benodol ar gyfer canolbwyntio gweithredu gan Lywodraeth."

Rhannu'r stori