Yn 2015, sefydlodd Lincoln's Inn wobr ar gyfer myfyrwyr sydd ar fin dechrau eu blwyddyn olaf o radd cymhwyso yn y Gyfraith mewn prifysgolion nad ydynt yn aelodau o Grŵp Russell. Nod Gwobr Neuberger yw  cydnabod myfyrwyr sydd wedi dangos rhagoriaeth a chynnig cyfle iddynt integreiddio â Lincoln's Inn yn ystod blwyddyn olaf eu gradd cymhwyso yn y gyfraith.

Bob blwyddyn, mae Lincoln's Inn yn dewis hyd at bum derbynnydd sydd wedi cael eu henwebu gan eu prifysgol a dyfarnu iddynt wobr gwerth £1000 ac aelodaeth myfyriwr am ddim. Yn ogystal, caiff yr enillwyr gyfle i rwydweithio ag aelodau Lincoln's Inn a'i staff.

Ymhlith yr enillwyr eleni y mae Mari Watkins sydd yn ei blwyddyn olaf o astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Mari'n gwneud cyfraniad gweithredol at Ysgol y Gyfraith a hithau wedi cyflwyno sesiynau am ffug-lysoedd barn yn ystod diwrnodau agored y Brifysgol a gweithio fel myfyriwr llysgennad. Yn gynharach eleni, cafodd ei chydnabod am ei sgiliau eiriolaeth a dyfarnwyd yr ail wobr iddi yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Traethawd National Accident Helpline, Future Legal Mind.

Wrth siarad am ei llwyddiant, meddai Mari:

"Rwyf wrth fy modd yn derbyn gwobr mor nodedig ac fel rhywun ag uchelgeisiau i fod yn fargyfreithiwr, mae'n anrhydedd cael fy nghydnabod gan Gymdeithas Anrhydeddus Lincoln's Inn.

"Dwi'n obeithiol mai dyna le bydd fy nyfodol yn fy arwain!"

Rhannu'r stori