Nod Prifysgol Abertawe yw darparu addysg gyfreithiol gyfoes ac ymarferol i’n myfyrwyr. Felly, mae ein cysylltiadau â diwydiant yn hynod bwysig a thros y blynyddoedd rydym wedi datblygu perthnasoedd agos ag un o brif gwmnÏau’r byd; HFW.

Mae HFW yn gwmni cyfreithiol byd-eang sy’n cyflogi dros 600 o gyfreithwyr yn America, Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia ac Awstralia, ac mae’n cynnig 3 gwobr i fyfyrwyr Abertawe. Mae’r cwmni’n arbenigo yn y sectorau awyrofod, nwyddau traul, adeiladu, ynni, yswiriant a morgludiant.

Ym mlwyddyn academaidd 2019-20, enillwyr Gwobrau HFW oedd: Gillis Klotz (Gwob HFW Prize mewn Cyfraith y Morlys); Fabio Cerasuolo (Gwobr HFW mewn Cyfraith Olew a Nwy) a Milan Tomic (Gwobr HFW am Gludo Nwyddau). Daeth Gillis i Abertawe o Brifysgol Tulane, ac mae Fabio wedi gweithio mewn cwmni cyfreithiol yn yr Eidal am 4 blynedd cyn dod i Abertawe. Mae Milana’n hanu o Montenegro ac mae hefyd yn derbyn Ysgoloriaeth Chevening.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Richard Neylon, Partner yn HFW, sydd hefyd yn raddedig o Abertawe, mewn cynhadledd Zoom. Gwnaeth longyfarch y myfyrwyr am eu llwyddiant gan fynegi ei lawenydd bod graddau LLM Abertawe’n cael cymaint o enw da yn fyd-eang.

Rydym yn ddiolchgar i HFW am ei gefnogaeth barhaus i raddau LLM Abertawe a chan fuddsoddi cymaint yn noniau’r dyfodol mewn ymarfer cyfreithiol byd-eang.

Rhannu'r stori