Dwy flynedd yn ôl, ymrwymodd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe i gytundeb gyda Bloomfield Law Practice i lansio Gwobr flynyddol a chyfle interniaeth ar gyfer y myfyriwr LLM gorau o Nigeria ym maes cyfraith fasnachol, forwrol, olew a nwy.

Eleni, mae'r Wobr yn mynd i Dennis Ikeke Azeke, sy'n dod o dalaith Edo yn wreiddiol. Graddiodd Dennis o Gyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Lagos ac mae wedi cofrestru ar ein LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol. Ar hyn o bryd, mae ar ben ffordd i gwblhau ei LLM gyda rhagoriaeth. Cyflwynwyd y Wobr i Dennis mewn cyfarfod Zoom (sef y dull arferol eleni!) gan gynrychiolwyr o Bloomfield Law Practice: Ms Funbi Matthews, Mr Adedoyin Afun, a Mr Michael Abiiba.

Sefydlwyd Bloomfield Law Practice yn 2007 ac mae wedi ennill enw da yn gyflym fel cwmni cyfraith o'r radd flaenaf sy'n arbenigo ym maes cyfraith forwrol a masnachol sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol o safon i gleientiaid o bedwar ban byd. Mr Afun, sydd hefyd â gradd LLM o Abertawe, yw cadeirydd Grwpiau Ymarfer Gwasanaethau Olew a Morgludiant ac Awyrennau a Logisteg y cwmni. Yn ystod y seremoni, canmolodd Mr Afun yr addysg gyfreithiol a gynigir yn Abertawe a nododd y bydd Dennis yn cael cynnig interniaeth yn ei swyddfa yn Lagos i gysgodi sawl partner o fis Tachwedd ymlaen.

Ar ran yr Ysgol, diolchodd Dr Iwobi, Uwch-ddarlithydd, i Bloomfield Law Practice am ddechrau'r wobr freintiedig hon gan ddweud bod yr ysgol yn gwerthfawrogi ein cysylltiadau â chwmni cyfreithiol yn Nigeria mor uchel ei barch. Yn ogystal, canmolodd Dr Iwobi Dennis am ei berfformiad rhagorol ym mhob un o'i fodiwlau LLM, gan nodi y byddai'n cael budd enfawr o'i interniaeth yn Bloomfield.

Rhannu'r stori