Gareth a Bethan

Gareth a Bethan

Cwrddodd Gareth a Bethan yn ystod eu hastudiaethau israddedig, pan oedd Gareth yn astudio Troseddeg a Bethan yn astudio’r Gyfraith. Roedd y ddau yn adnabod ei gilydd am fod ganddynt ffrindiau’n gyffredin a ffynnodd eu perthynas yn ystod blwyddyn olaf eu graddau.

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau israddedig, anfonwyd Gareth i Afghanistan gyda’r fyddin Brydeinig a dechreuodd Bethan ei gyrfa gyda’r Gwasanaeth Prawf. Ar ôl dychwelyd adref yn 2015, cafodd Gareth anaf trawmatig i’w ymennydd a threuliodd nifer o wythnosau yn yr ysbyty ar ôl cael ei roi mewn coma meddygol.

Roedd yn gyfnod heriol dros ben i’r pâr ond, drwy ddyfalbarhad mawr, gwellhaodd iechyd Gareth yn syfrdanol. Ers hynny mae wedi parhau ei yrfa gyda’r fyddin, fel swyddog recriwtio. Ers cael ei anafu mae wedi cael ei ddyrchafu ddwywaith a chorporal yw ei reng bellach.

Nid oedd eu cysylltiadau ag Abertawe wedi dod i ben eto. Roedd Bethan wedi bod yn awyddus i ddychwelyd i’r brifysgol i ymgymryd ag astudiaethau pellach a chan ystyried y cymorth a dderbyniodd yn ystod ei hastudiaethau israddedig, teimlodd mai Abertawe oedd y dewis naturiol. Dechreuodd astudio am ei gradd meistr mewn Troseddeg ym mis Medi 2015, gan barhau i ddatblygu gyrfa yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Daeth Gareth yn ôl i Brifysgol Abertawe hefyd yn 2016 i astudio am ei radd meistr mewn Troseddeg.

Mae eu cysylltiad ag Abertawe mor gryf y penderfynodd y pâr wahodd yr Athro Cysylltiol Debbie Jones i’w priodas gan ei bod wedi addysgu’r ddau ohonynt yn ystod eu hamser yn Abertawe, a daethon nhw yn ôl i’r campws i dynnu lluniau’r briodas hyd yn oed.

Wrth gofio am eu hamser yn Abertawe, meddai Bethan:

“Rydyn ni wedi derbyn cymaint o gymorth ac anogaeth gan yr adran drwy gydol ein haddysg, mae wedi ysgogi awydd ynom i barhau i dyfu, dysgu a datblygu. Mae’r cymorth mae’r ddau ohonom wedi’i dderbyn gan y staff, a Debbie Jones yn arbennig, yn anhygoel. Maen nhw’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau i’ch arwain fel y gallwch ddatblygu ac ehangu eich sgiliau ymchwil. Ar ôl cwblhau’r cwrs, wedi blynyddoedd o waith caled ac ymchwil, mae’r ymdeimlad o gyflawni sydd gennych wrth sefyll yn eich gŵn ar ddiwrnod graddio yn fythgofiadwy.

“Wrth i ni ddechrau ein hantur nesaf, bywyd priodasol, dyw addysg ddim wedi dod i ben i ni. Dwi wedi cwblhau blwyddyn gyntaf TAR addysg uwch yn ddiweddar a hoffwn i fynd ymlaen i gwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe.”

Wrth siarad am yr achlysur, meddai’r Athro Cysylltiol Debbie Jones:

“Roeddwn i’n ffodus iawn i gael y pleser o addysgu Bethan a Gareth – Bethan yn ystod ei hamser ar y rhaglen MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg a Gareth yn ystod ei amser fel myfyriwr troseddeg israddedig ac ar y rhaglen MA. Yn wir, ces i gyfle i ddod i adnabod y ddau ohonyn nhw’n dda gan i mi oruchwylio Gareth am ei draethawd estynedig israddedig a Bethan am draethawd estynedig ei MA.

“Roedd y ddau ohonyn nhw’n fyfyrwyr gwych ond, yn bwysicach na hynny, maen nhw’n bobl wych. Gyda’i gilydd mae nhw wedi wynebu a goresgyn nifer o heriau personol a fyddai’n profi unrhyw berthynas.  Felly, roeddwn i wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i rannu eu seremoni briodas gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Roedd yn ddiwrnod gwych ac roedd hi’n fraint gen i gynrychioli’r Coleg a bod yn rhan o achlysur arbennig iawn. Rydym i gyd yn estyn ein dymuniadau gorau i Gareth a Bethan am fywyd hapus ac iach gyda’i gilydd.”

Rhannu'r stori