Nod Prifysgol Abertawe yw darparu addysg gyfreithiol gyfoes ac ymarferol i’n myfyrwyr. Felly, mae ein cysylltiadau â diwydiant yn hynod bwysig, a dros y blynyddoedd rydym wedi gweithio’n galed i feithrin cysylltiadau agos ag aelodau allweddol y diwydiant.

Un o’r rhain yw Ince, y cwmni cyfraith ryngwladol o fri. Dyfernir Gwobr Ince i fyfyriwr LLM Abertawe sy’n ennill y marc uchaf yn Rhan 1 ei astudiaethau. Roedd y gystadleuaeth yn frwd, ond eleni yr enillydd clir oedd Mr Filippos Alexandrakis.

Cyflwynwyd y wobr i Filippos gan gyd-bartner rheoli’r cwmni, Mr Michael Volikas. Graddiodd ef o Ysgol y Gyfraith Athen a chwblhaodd ei radd LLM mewn Cyfraith Forwrol yn yr un brifysgol ag anrhydedd. Mae’r wobr yn cynnwys £500 a chyfle i wneud interniaeth yn swyddfa Piraeus Ince. 

Yn siarad yn y digwyddiad, meddai’r Athro Barış Soyer, Cyfarwyddwr Morgludiant a Masnach:

“Mae’r wobr yn gwbl haeddiannol ac rydym yn gwybod y bydd Filippos yn gwneud Prifysgol Abertawe’n falch yn ystod ei interniaeth. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ince am ei gefnogaeth barhaus i Abertawe a’i fuddsoddiad yn ein graddedigion ifanc ac addawol.”

Rhannu'r stori