Cynhaliodd y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ei 16eg Gynhadledd ar 10-11 Medi. Canolbwyntiodd y digwyddiad ar ddau ddatblygiad cyfoes: technolegau trawsnewidiol a newid yn yr hinsawdd.

Amcan y digwyddiad oedd astudio’n fanylach effaith y ddau ddatblygiad allweddol hyn ar gyfraith ac ymarfer ym maes llongau. Yn benodol, cyflwynwyd papurau yn y meysydd canlynol: technoleg Blockchain ym maes yswiriant llongau a morol; dronau a llongau awtonomaidd mewn cyfraith forwrol; systemau awtonomaidd a seiber-risgiau cysylltiedig; amgryptio uwch i ddiogelu yn erbyn seiber-risgiau; yr elfen ddynol mewn llongau awtonomaidd; materion eiddo deallusol mewn perthynas â thechnolegau newydd; agweddau rhyngwladol ar reoleiddio newid yn yr hinsawdd; llongau yn yr Arctig; agweddau'r UE a rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd ac achosion cyfreithiol fel rhai'r UD yn erbyn cwmnïau olew mawr.

Y siaradwyr a'r llywyddion oedd:

  • Dr Lia Amaxilati, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Simon Baughen, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Andrew Beale OBE, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Olivier Cachard, Deon Emeritws, Prifysgol Lorraine
  • Dr Michael Chatzipanagiotis, Darlithydd, Prifysgol Cyprus
  • Mr Julian Clark, Uwch-bartner , Ince & Co
  • Mr Paul Dean, Pennaeth Llongau Byd-eang, HFW
  • Ellen J. Eftestøl, Athro Cyfraith Sifil a Masnachol, Prifysgol Helsinki
  • Y Gwir Anrhydeddus Syr Peter Gross, Cymrodeddwr, Twenty Essex
  • Monica Kohli, Uwch-gyfreithiwr, Gard
  • Yr Athro Cysylltiol George Leloudas, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Dr Youri van Logchem, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Dr Ewan McGaughey, Uwch-ddarlithydd, Coleg y Brenin, Llundain
  • John Russell CF, Quadrant Chambers
  • Yr Athro Barış Soyer, Cyfarwyddwr, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Andrew Tettenborn, IISTL, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Richard Williams, IISTL, Prifysgol Abertawe

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer, Cyfarwyddwr IISTL:

"Roedd lleoliad y digwyddiad eleni'n wahanol, wrth gwrs, ond roedd rhai agweddau'r un peth ag arfer: cyflwynwyd papurau diddorol gan siaradwyr ardderchog, gwnaeth y gynulleidfa ei rhan drwy ofyn cwestiynau hynod ddiddorol (a heriol) ac Informa Law (Routledge) oedd ein noddwr!

Roeddwn i'n arbennig o falch o weld bod fersiwn ar-lein ein Cynhadledd wedi denu cynadleddwyr o bob cwr o'r  byd a llwyddom i gyrraedd cyfreithwyr, ymarferwyr a chydweithwyr academaidd a fyddai'n cael anhawster dod i'n digwyddiad fel arfer pe bai'n cael ei gynnal yn Abertawe.

Rwy'n ddiolchgar iddynt i gyd am gefnogi ein 16eg Gynhadledd. Hoffwn ddiolch hefyd i'm cydweithwyr yn yr IISTL a wrthododd adael i bandemig byd-eang hyd yn oed ein hatal rhag cynnal ein Cynhadledd Flynyddol drwy fy annog i'w chynnal ar-lein.

Penderfynwyd cynnal y digwyddiad ar-lein eleni ar ddiwedd mis Mai ac, o ganlyniad i waith rhagorol gan Lyn Ryland (ein Cydlynydd Digwyddiadau ) ac Alicia McKenzie (ein Cynorthwy-ydd Ymchwil), llwyddom i gynnal digwyddiad heb broblemau technegol, a ddenodd fwy na 100 o gynadleddwyr! Rwy'n obeithiol o hyd y bydd pethau'n ôl i'r drefn arferol ar gyfer 2021. 

Rhannu'r stori