Mae Emma Jones, Prif Swyddog Gweithredu y fenter Include Abertawe, wedi cael ei henwebu ar gyfer un o Wobrau Cymunedol 2020 yr Howard League, yn y categori 'Hyrwyddwr', o ganlyniad i'w gwaith rhagorol. Mae Include ei hun ar restr fer y Wobr am Sefydliad y Flwyddyn hefyd. Cafodd Emma ei henwebu gan yr Athro Cysylltiol Debbie Jones.

Mae Emma ac Include wedi cydweithredu ers amser maith â'r Adran Droseddeg yma yn Ysgol y Gyfraith, gan weithio ochr yn ochr â'r Athro Tracey Sagar, yr Athro Cysylltiol Debbie Jones a Dr Gemma Morgan. Wrth ddiolch i Debbie a'r Adran Droseddeg, meddai Emma: "mae dros ddegawd o bartneriaeth wedi arwain at fuddion o ran ymchwil, dysgu, dylanwad a chyfleoedd i bawb a fu'n rhan o'r cydweithredu, o fyfyrwyr ar interniaeth i droseddwyr, staff a menywod agored i niwed."

Gyda'i gilydd maent wedi ymgymryd â gwaith arbenigol ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys Sex Work Research Wales a'r Desistance Project. Mae'r Athro Cysylltiol Debbie Jones a Dr Gemma Morgan hefyd wedi gweithredu fel gwerthuswyr mewnol ar ddau o brosiectau 'Include'.

Mae gan Emma hanes o lwyddo ac mae hi wedi ennill nifer o wobrau blaenorol yn Abertawe. Bu'n gyfrifol am oruchwylio nifer o fyfyrwyr o Ysgol y Gyfraith ar interniaethau gan sicrhau eu bod yn elwa o brofiad o'r gweithle ac enillodd Wobr Cyflogadwyedd Abertawe am y gwaith hwn.

Wrth siarad am yr enwebiad, meddai'r Athro Cysylltiol Debbie Jones:

Mae hi wedi bod yn fraint bur gweithio gydag Emma dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae hi'n arweinydd neilltuol sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi grwpiau wedi'u hymyleiddio ledled de Cymru. Mae hi hefyd wedi darparu cyfle i fyfyrwyr feithrin y sgiliau angenrheidiol i allu gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o droseddu ac wedi eu helpu i roi eu hastudiaethau academaidd ar waith.  Mae'n wych gweld ei gwaith caled yn cael ei gydnabod gan yr Howard League. 

Rhannu'r stori