Mae'r Athro Maura Conway yn dechrau yn ei swydd newydd fel rhan o fuddsoddiad diweddar gwerth £5.6miliwn yn Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru  yr ysgol.

Mae’r Athro Conway wedi’i pharchu gan lawer fel un o arbenigwyr blaenllaw’r byd ym maes gweithgareddau ar-lein terfysgwyr, ac mae’n gydlynydd rhwydwaith academaidd unigryw’r UE sy’n canolbwyntio ar ymchwil i fynychter, amlinellau, swyddogaethau ac effeithiau eithafiaeth wleidyddol ar-lein dreisgar; VOX-Pol.

Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys maes terfysgaeth a’r rhyngrwyd, gan gynnwys seiberderfysgaeth, swyddogaeth ac effeithiolrwydd cynnwys eithafol gwleidyddol treisgar ar-lein sy’n cynnwys defnydd terfysgwyr o’r cyfryngau cymdeithasol a radicaleiddio ar-lein treisgar.

Mae hi’n awdur dros 40 o erthyglau a phenodau yn ei meysydd arbenigedd, ac mae wedi cyflwyno ei chanfyddiadau gerbron y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel a Thŷ’r Arglwyddi yn y DU. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori Academaidd Canolfan Wrth-derfysgol Europol ac yn aelod o Fwrdd Golygu’r cyfnodolyn academaidd blaenllaw, Terrorism and Political Violence.

Bydd penodiad Maura yn helpu’r Labordy Arloesi Cyfreithiol i gyflawni ei brif amcanion. Mae gan y labordy gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac mae’n gyfleuster ymchwil ac arloesedd unigryw. Ei brif amcanion yw creu’r canlynol:

• Cyfres o ystafelloedd ymchwil i seiberfygythiadau, gyda labordai ymchwil data sy’n cefnogi cydweithrediad â phartneriaid allweddol.
• Labordy “Deallusrwydd Artiffisial Cyfreithiol” lle gall ymchwilwyr ym maes y Gyfraith a Chyfrifiadureg ddatblygu, profi a chymhwyso technegau newydd mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, dylunio cyfreithiol a phrosesu iaith naturiol.
• Canolfan Arloesi Cyfreithiol lle gall cwmnïoedd cyfreithiol a thechnolegol ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol.
• Clinig y Gyfraith lle gellir peilota arloesedd a chydweithrediad TechGyfreithiol, gan arwain at ddefnyddio cymwysiadau a llwyfannau sy’n cefnogi mynediad at gyfiawnder.

Bydd yr Athro Conway hefyd yn datblygu gwaith Canolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) Ysgol y Gyfraith, sydd ag enw rhyngwladol am ei hymchwil gymhwysol i seiberderfysgaeth a defnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd.

Gan siarad am benodiad yr Athro Conway, meddai’r Athro Stuart Macdonald, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, “Am flynyddoedd lawer erbyn hyn, mae gwaith yr Athro Conway wedi arwain y ffordd o ran datblygu ein dealltwriaeth ni o weithgareddau ar-lein terfysgwyr, gan ystyried yn ofalus ac asesu ymatebion deddfwriaethol a pholisi. Fel cydlynydd rhwydwaith VOX-Pol, mae hi hefyd wedi bod yn ddylanwadol wrth fentora ymchwilwyr gyrfa gynnar a sefydlu cysylltiadau rhwng y byd academaidd â llunwyr polisi ac ymarferwyr. Mae’n bleser o'r mwyaf gennym ei chroesawu i Ysgol y Gyfraith”.

Ynghylch ymuno ag Ysgol y Gyfraith, dywedodd yr Athro Conway, “Rwyf wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Abertawe am fron i ddegawd, ar y Prosiect Seiberderfysgaeth i gychwyn, ac yn hwyrach ar y Gynhadledd TASM (Terfysgaeth a’r Cyfryngau Cymdeithasol) a mentrau eraill. Felly, rwyf wrth fy modd i allu ffurfioli fy mherthynas â Phrifysgol Abertawe ac edrychaf ymlaen yn fawr at gyfrannu at waith y Labordy Arloesi Cyfreithiol a CYTREC.”

Bydd yr Athro Conway yn dal ei swydd ym Mhrifysgol Abertawe ar y cyd â’i swydd yn Ysgol y Gyfraith a’r Llywodraeth ym Mhrifysgol Dinas Dulyn.

Rhannu'r stori