Yn Abertawe, rydyn ni’n cynnig addysg yn y gyfraith sy’n gyfoes ac yn ymarferol yn enwedig ar lefel gradd Meistr a Addysgir. Rydyn ni wrth ein boddau i gyhoeddi y byddwn ni’n cynnig modiwl newydd sef Eiddo Deallusol, Arloesedd a’r Gyfraith o 2020-21.

Gall y modiwl hwn gael ei ddilyn gan fyfyrwyr sy’n astudio ar ein cyrsiau LLM mewn Cyfraith Fasnachol RyngwladolLLM mewn Cyfraith Masnach Ryngwladol a Chyfraith y MôrLLM mewn Cyfraith Masnach Ryngwladol ac, wrth gwrs, LLM mewn Eiddo Deallusol ac Ymarfer Masnachol.

Mae’r modiwl yn astudio effaith technolegau newydd ar y Gyfraith a rheoleiddio cyfreithiol technoleg. Mae’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng y gyfraith, allbynnau creadigol, arloesedd a thechnolegau newydd, ac mae’n archwilio i sut mae athrawiaeth gyfreithiol gyfoes yn mynd i’r afael ag effeithiau technolegau. Wrth i dechnoleg barhau i dreiddio i bob agwedd ar ein bywydau, yn enwedig o ran gweithgareddau masnachol, mae mynnu awdurdodaeth a rheoleiddio wedi ennyn lefel uwch o ddiddordeb ymhlith awdurdodau cyfreithiol.

Felly, mae’r modiwl yn rhoi rhagymadrodd i natur ac arwyddocâd ymdrechion creadigol yn nhermau technoleg, diddordebau masnachol a’r gyfraith. Mae’n archwilio’r diogelwch cyfreithiol a roddir i allbynnau creadigol mewn seiberofod a dimensiwn cyfreithiol arloesedd technolegol megis technoleg Blockchain.  

Addysgir y modiwl hwn gan Dr Nnenna Ifeanyi-Ajufo. Mae Dr Ifeanyi-Ajufo yn gyfreithiwr ac yn academydd sy’n arbenigo mewn cyfraith a thechnoleg. Ers blynyddoedd, mae hi wedi addysgu cyfraith technoleg gwybodaeth, cyfraith ryngwladol a chyfraith eiddo deallusol ac mae hi wedi goruchwylio ymchwil yn y meysydd hynny.

Cyn ymuno ag Abertawe, bu’n ddarlithydd y gyfraith ar Gampws Ghana Prifysgol Caerhirfryn lle addysgodd hi seiberdroseddu, cyfraith eiddo deallusol a chyfraith gamweddau. Mae hi’n meddu ar Radd Baglor yn y Gyfraith (LLB), LLM mewn Cyfraith Technoleg Gwybodaeth Ryngwladol ac LLD mewn Cyfraith Ryngwladol. Mae hi hefyd yn meddu ar Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd Rhyngwladol ac yn ddiweddar, cwblhaodd radd Meistr mewn Astudiaethau Affricanaidd.

Mae hi wedi mynychu amrywiaeth o gyrsiau â chredydau academaidd, gan gynnwys cyrsiau a gynigir gan Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO) a Sefydliad Masnach y Byd. Derbyniodd y Gymrodoriaeth gyntaf a ddyfarnwyd gan WIPO ar gyfer Athrawon Eiddo Deallusol yn Affrica. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar hawliau dynol a thechnoleg, hawliau digidol, seiberdroseddu a’r gyfraith mewn seiberofod, ac mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer ystod o gyfnodolion academaidd a chyhoeddiadau y cyfryngau.

Mae hi’n angerddol am drafodaethau sy’n datblygu’n gynyddol ynghylch ‘cyfraith seiberdroseddu ryngwladol’ ym maes cyfraith droseddu ryngwladol. Ar hyn o bryd mae hi’n gwasanaethu fel Is-gadeirydd Grŵp Arbenigwyr Seiberddiogelwch Undeb Affrica (AUCSEG); sef corff ymgynghori ar gyfer Comisiwn Undeb Affrica (AUC) yn Rhanbarth Affrica. Yn y rôl honno, mae hi wedi chwarae rôl effeithiol mewn cynghori’r AUC ar fframweithiau cyfreithiol rhyngwladol, rhanbarthol a chenedlaethol presennol sy’n ymwneud â seiberddiogelwch a seiberdroseddu. 

Rhannu'r stori