Ddydd Mawrth 30 Hydref, enwyd Dr Anthony Charles, Cydlynydd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid arloesol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, yn gydymaith newydd ar gyfer y Ganolfan Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddol.

Nod y cynllun cymdeithion, a grëwyd i ddenu unigolion sy'n rhan o'r maes cyfiawnder ieuenctid – naill ai drwy wneud ymchwil iddo, ymarfer, llunio polisïau neu sydd â phrofiad byw ynddo – yw trawsnewid ac ehangu'r sylfaen wybodaeth am gyfiawnder ieuenctid yn yr Alban. Bydd cymdeithion yn cyfrannu at brosiectau, cyhoeddiadau, gweithgarwch ymchwil a chyfathrebiadau digidol yn y Ganolfan.

Mae Dr Charles, sydd hefyd yn Arweinydd Troseddeg ar gyfer Arsyllfa Cymru ar Hawliau'r Plentyn ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnal llawer o waith i ddeall yn well sut i atal a gwyro ym maes cyfiawnder ieuenctid, effaith datganoli yng Nghymru ar ddulliau i gefnogi plant sy'n gwrthdaro â'r gyfraith a'r ffordd y gall rhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) ar waith, yn enwedig mewn addysg, greu deilliannau cadarnhaol i blant.

Dywedodd Dr Charles, wrth siarad am ei rôl newydd yn gydymaith:

"Mae'n fraint cael fy enwi'n Gydymaith ar gyfer y Ganolfan Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddol. Mae'r Ganolfan yn datblygu gwaith diddorol iawn ac rwyf wedi sylwi ar y pwyslais o'r newydd y mae Gweinyddiaeth Ddatganoledig yr Alban yn ei rhoi ar blant a phobl ifanc. Yn gydymaith newydd, rwy'n edrych ymlaen at gefnogi gwaith y Ganolfan. Yn benodol, rwy'n awyddus i gyfrannu at sgyrsiau a datblygu camau gweithredu sy'n ymwneud â sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd yng Nghymru ac yn yr Alban, fel bod y polisïau, y prosesau a'r arferion gorau yn cael eu nodi a'u cynnig i bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid."

Meddai Fiona Dyer, cyfarwyddwr dros dro'r Ganolfan: "Mae'n bleser croesawu ein cymdeithion newydd i'r Ganolfan. Mae'r cynllun hwn wedi bod o fudd i'r ddwy wlad, drwy ddylanwadu ac ehangu arbenigedd, datblygu a chynnal partneriaethau cryf a gwella gwybodaeth systemau cyfiawnder ieuenctid a throseddol yr Alban a'r DU.

"Mae ein cymdeithion wedi cynnal seminarau, wedi cyflwyno yn ein cynadleddau, wedi llunio blogiau ac wedi cydweithio ar ymchwil. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith ac yn edrych ymlaen at weld yr hyn a ddaw yn y flwyddyn nesaf!"

Rhannu'r stori