Yr Athro Cysylltiol Andrew Beale OBE

LLB (BRYSTE) MPHIL (CYMRU) TAR (CYMRU) GMINSTLEX.

Andrew Beale

Bu Andrew gynt yn Bennaeth Gweithredol y Coleg ar ôl ymuno â ni yn 2004 yn Gyfarwyddwr IP Wales®, ein menter cefnogi busnes arobryn gwerth £4m. ‌

Ac yntau'n Bennaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn wreiddiol, penodwyd Andrew yn Gyfarwyddwr Menter Hawliau Eiddo Deallusol Abertawe ym 1999. I gydnabod ei chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) wrth ddefnyddio'r system eiddo deallusol, enillodd menter Hawliau Eiddo Deallusol Abertawe'r wobr One 2 One yng Ngwobrau Best 4 Business 2000.  Bu Andrew yn gyfrifol am gynllunio a lansio IP Wales® yn 2002. Enillodd IP Wales® Wobr Arbennig y Beirniaid yng Ngwobrau Ewropeaidd WORLDLeaders yn 2004. O dan arweinyddiaeth Andrew, cynorthwywyd dros 800 o fusnesau i wneud penderfyniadau masnachol gwybodus am eu hasedau eiddo deallusol, gan eu helpu i sicrhau a diogelu dros 220 o batentau, 70 o nodau masnach a chofrestru 10 dyluniad ledled y byd. Darparwyd cymorth i dros 25 o gytundebau trwyddedu (mewnol ac allanol) gan hwyluso defnydd masnachol o asedau anghyffwrddadwy drwy ymgorffori strategaeth asedau deallusol yn y cynllun busnes cyffredinol.

 I gydnabod ei lwyddiant wrth gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o eiddo deallusol yn y gymuned BBaCh yng Nghymru, penodwyd Andrew i secondiad gyda Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO) rhwng 2008 a 2009. Yn ystod ei gyfnod gyda WIPO, roedd Andrew yn un o drefnwyr a chyflwynwyr Fforwm WIPO ar Intellectual Property & SMEs for IP Offices of OECD and EU Enlargement Countries (2008) yng Nghaerdydd, un o'r ychydig achlysuron pan gynhaliwyd y digwyddiad pwysig hwn y tu allan i Genefa. Cafodd Andrew ei gydnabod am ei wasanaethau i eiddo deallusol a busnes yng Nghymru pan ddyfarnodd y Frenhines OBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau ei Phen-blwydd yn 2009. Mae wedi cael gwahoddiadau i siarad mewn nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys cyflwyno i Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd, Sefydliad Masnach y Byd, y Comisiwn Ewropeaidd a Swyddfa Patentau Ewrop.

Mae Andrew'n parhau'n Gyfarwyddwr IP Cymru® a bu'n gyfrifol am ddilysu ein rhaglen LLM newydd mewn Eiddo Deallusol ac Ymarfer Masnachol. Andrew sy'n arwain y modiwlau Cyfraith Eiddo Deallusol Ryngwladol, Cyfraith Rheoli Asedau a Thrafodion Deallusol ac mae hefyd yn darlithio ar y modiwl 'Oily IP' yn ein LLM newydd mewn Olew a Nwy.

I weld hanes ymchwil Andrew Beale, cliciwch yma