Teulu Bowen wrth raddio eu merch Emily yn 2014 ac Emily, Mathew a Esme Mariani yn ystod eu hymweliad â Phrifysgol Abertawe.
Does dim rhyfedd bod gan Brifysgol Abertawe le arbennig yng nghalonnau teulu Bowen. Mae nhw i gyd wedi astudio yma ond, hefyd, mae cysylltiad personol ganddynt â’r ymchwil sy’n cael ei chynnal yma.
Gwnaeth y tad, Andrew Bowen, raddio gyda gradd mewn Peirianneg Fecanyddol ym 1989, graddiodd y fam, Rebecca, yn yr un flwyddyn ar ôl iddi hi astudio Daearyddiaeth.
Dilynodd eu merch hynaf, Emily Mariani, ôl troed ei mam ac astudio’r un pwnc. Yna, daeth ei chwaer, Kate Bowen, a astudiodd Nyrsio i Oedolion ac yn olaf, yn 2019, graddiodd eu brawd, Ben Bowen, mewn Peirianneg Gemegol cyn iddo ymgymryd â gradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe hefyd.
Dywedodd Emily: “Roedd wastad enw da gan Brifysgol Abertawe yn y meysydd roedden ni i gyd am eu hastudio. Rydyn ni’n dod o Bontarddulais felly roedd y ffaith bod y Brifysgol ar garreg ein drws yn ei gwneud yn ddewis rhesymegol i ni.
“Rydyn ni’n falch o fod wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ac rwy’n meddwl ei bod hi’n wych ein bod ni i gyd wedi dod yma. Gwnes i ffrindiau am oes ac mae’r Brifysgol wedi rhoi’r sylfaen i ni adeiladu ein bywydau a’n gyrfaoedd.”
Ond, er i Emily raddio gyda gradd mewn Daearyddiaeth yn 2014, mae hi a’i gŵr, Mathew, wedi dychwelyd i’r campws.
Ganwyd eu merch, Esme, bum mlynedd yn ôl â chyflwr cynhenid y galon ac roedd rhaid iddi gael llawdriniaeth ar ei chalon pan oedd hi dim ond yn ychydig ddyddiau oed. Gwnaeth ei thaith a’r ymchwil a arweiniodd at ei thriniaeth lwyddiannus ysbrydoli’r cwpl i gefnogi’r British Heart Foundation (BHF).
Mae nhw wedi ymroi eu hunain i godi arian, lledaenu ymwybyddiaeth a chefnogi pobl eraill sy’n wynebu heriau tebyg. Drwy heriau marathon, digwyddiadau cymunedol ac ymgyrchoedd cyhoeddus, mae nhw wedi helpu i amlygu clefyd cynhenid y galon a phwysigrwydd ymchwil.
Dywedodd Emily: “Rydyn ni am roi gobaith i rieni eraill sy’n canfod eu hunain yn yr un sefyllfa â ni. Ddaw eto haul ar fryn.”
Un maes y mae’r BHF yn ei gefnogi yw’r Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd (NCRN), sy’n cynnwys tîm o ymchwilwyr sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe i wella’r gwaith o atal, diagnosio a thrin clefyd cardiofasgwlaidd.
Roedd Cyfarwyddwr yr NCRN, yr Athro Christopher George, wrth law i gwrdd ag Esme a’i rhieni pan ymwelon nhw ag Ysgol Feddygaeth y Brifysgol i gael cipolwg ar beth o’r gwaith sy’n cael ei ariannu gan y BHF.
Talodd yr Athro George deyrnged i’r teulu a’r cefnogwyr eraill sy’n gwneud cymaint dros yr elusen: “Roedd yn bleser gennyf gwrdd â theulu Mariani ac yn enwedig i weld Esme’n edrych mor dda. Ymroddiad teuluoedd fel y teulu hwn yw’r hyn sy’n gwneud i’n gwaith ni barhau. Clefyd cardiofasgwlaidd yw lladdwr mwyaf y wlad hon.
"Mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei gael yn rhoi hwb i’n gwaith ni yn y maes hwn, sydd o fudd i bobl Cymru a’r tu hwnt.”
Dywedodd Emily: “Mae’r ymchwil sy’n cael ei hariannu gan y BHF yn helpu i sicrhau llwyddiant y llawdriniaethau efallai bydd eu hangen ar Esme yn y dyfodol. Mae’n wych gweld yr ymchwil sy’n cael ei chynnal yn yr union brifysgol rydyn ni i gyd wedi’i mynychu.
“Roedd cysylltiad mor agos gennym â Phrifysgol Abertawe eisoes, ond mae hyn yn arbennig iawn.”
Hyd yn hyn, mae Emily a Mathew, sy’n byw yn yr Hendy, eisoes wedi codi swm anhygoel o £37,000 dros elusennau clefydau y galon – mae £19,153 ohono ar gyfer y BHF. Ac mae hi’n dweud nad ydyn nhw wedi gorffen eto.
Ar ôl ymdrechion Mathew mewn marathonau dros y bedair blynedd ddiwethaf, tro Emily yw hi nawr. Er gwaethaf y ffaith nad yw hi’n rhedwr, mae hi wedi sicrhau lle yn hanner marathon Caerdydd y flwyddyn nesaf.
Mae eu hymroddiad wedi cael ei gydnabod gan y BHF ac mae nhw wedi cael eu henwi’n enillwyr Gwobr 2026 yr elusen am Gyfraniad Rhagorol dros Gymru. Mae nhw bellach yn cystadlu am y teitl cyffredinol eleni a benderfynir gan bleidlais y cyhoedd.
Os hoffech chi gefnogi teulu Mariani, gallwch chi bleidleisio yma i’w helpu i ennill Gwobr Dewis y Bobl . Gallwch chi bleidleisio tan ganol nos ar 23 Tachwedd.
Hefyd, gallwch chi gefnogi ymchwil feddygol arloesol ym Mhrifysgol Abertawe. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ein hymchwil a sut i roi arian ar gyfer prosiectau sy’n achub bywydau