Christopher George

Yr Athro Christopher George

Athro, Biomedical Sciences

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - 143
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Chris yn Athro Cardioleg Foleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei grŵp yn defnyddio adnoddau moleciwlaidd a chellog wedi’u cyfuno â damcaniaeth rhwydwaith i ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng signalau calsiwm, ymddygiad celloedd a’r digwyddiadau cynnar sy’n arwain at ddinistrio rhythm arferol y galon (arrhythmia).

Mae prif waith ymchwil Chris yn canolbwyntio ar ddefnyddio data arbrofol a chlinigol i ragweld y ffordd y mae celloedd y galon, yr injan ar gyfer pob curiad o’r galon, yn ymateb i fwtaniadau genetig a chyffuriau. Bydd ei waith yn gwella dulliau therapiwtig ar gyfer mynd i’r afael â chlefyd y galon genynnol a chlefyd y galon sy’n datblygu yn ystod oes unigolyn. Ariennir ei waith ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Chris yn Uwch Olygydd y British Journal of Pharmacology ac yn gyfrifol am bortffolio cardiofasgwlaidd y Cyfnodolyn. Mae’n aelod o fwrdd golygyddol Cardiovascular Research, Frontiers in Physiology ac Artery Research hefyd.

Mae ar Fwrdd y National Centre for Replacement, Refinement and Reduction of Animals in Research (NC3Rs) ac mae’n Gadeirydd y Panel Asesu Grantiau.

Yn 2020, cafodd Chris ei benodi’n Gadeirydd Cymru, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon.

Yn ei amser rhydd, mae’n brysur gyda bwrlwm bywyd teuluol. Cychwynnodd angerdd oes Chris am Glwb Pêl-droed Lerpwl ym 1973, ac mae’n chwarae gitars amrywiol ond nid fe yw gitarydd gorau’r teulu. Mae wrth ei fodd yn yr awyr agored, ac yn mwynhau cerdded a beicio.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Mecanweithiau arrhythmia cardiaidd
  • Signalau calsiwm
  • Bôn-gelloedd
  • Bioleg foleciwlaidd
  • Bioleg celloedd
  • Bioleg systemau
  • Technolegau sgrinio cyffuriau