Mae'r gwyddonydd biofeddygol, Dr Luke Davies, wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Bydd cyfanswm o 22 o grantiau cyllid newydd yn cefnogi prosiectau ymchwil arloesol ac ymchwilwyr ledled Cymru, gan fynd i'r afael ag ystod o flaenoriaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gyda gwerth oes cyfunol o fwy na £5.07 miliwn.
Bydd ei brosiect, sydd wedi derbyn ychydig dros £150,000, yn ymchwilio i fiofarcwyr ar gyfer diagnosis cynnar o haint yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.
Meddai Dr Davies, darlithydd llwybr ymchwil mewn imiwnometaboledd myeloid yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: "Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn. Wedi'i gynnal gan Brifysgol Caerdydd, mae'r Prosiect Sepsis ymhlith Mamau yn dwyn ynghyd gydweithwyr o Brifysgol Abertawe, y Wellcome Sanger Institute a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ymchwilio i ddulliau gwell o adnabod a rheoli haint mewn menywod beichiog."
Mae cyllid wedi'i roi i ystod o brosiectau ymchwil sydd â’r nod o fynd i'r afael â blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol, tra hefyd yn cefnogi datblygiad ymchwilwyr talentog ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Trwy fuddsoddi mewn ymchwil ragorol a'r bobl y tu ôl iddi, rydym yn helpu i gryfhau amgylchedd ymchwil Cymru a gwella canlyniadau iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol."