Dr Luke Davies

Dr Luke Davies

Darlithydd, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Luke Davies yn ddarlithydd ar y llwybr ymchwil mewn Imiwnometaboledd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae ganddo gefndir ym maes biocemeg (BSc) ac imiwnoleg (PhD) yng Nghymru, ac enillodd Gymrodoriaeth Henry Wellcome uchel ei bri i gefnogi ei ymchwil i imiwnometaboledd yn y Sefydliadau Cenedlaethol Iechyd yn Maryland, Unol Daleithiau America. Bydd Dr Davies bellach yn cymhwyso'r gwersi a ddysgwyd yn ystod ei ddegawd o archwiliadau i lid ac imiwnedd i addysgu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac ymchwilio ymhellach i drin clefyd dynol.

Meysydd Arbenigedd

  • Imiwnoleg celloedd myeloid
  • Imiwnedd Cynhenid
  • Imiwnometaboledd
  • Metaboledd
  • Ffisioleg beritoneaidd
  • Clefyd yr arennau
  • Haint
  • Llid

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Davies wedi meithrin sylfaen wybodaeth eang ym meysydd biocemeg, bioleg foleciwlaidd a geneteg. Fodd bynnag, mae ei ddiddordebau addysgu'n canolbwyntio'n benodol ar imiwnoleg, metaboledd, haint a ffisioleg meinweoedd. Mae ef wedi meithrin gwybodaeth ymarferol gref am ystod eang o dechnegau biofeddygol yn ystod degawd o ymchwil hynod weithredol, ac mae ef ar gael i gefnogi ymchwilwyr israddedig ar gyfer eu prosiectau blwyddyn olaf yn y labordy.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau