Pan oedd yn dewis ble i astudio, dim ond un dewis oedd i Freddie Williams. Mae'n dilyn olion traed ei ddau dad-cu ac yn mwynhau bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'n astudio yn yr un sefydliad ond mae hefyd newydd ddechrau astudio'r un cwrs â'i dad-cu balch, Handel Williams, a raddiodd gyda gradd mewn peirianneg fecanyddol 61 mlynedd yn ôl.
Roedd Handel, sydd nawr yn 83 oed, wrth ei fodd i weld Freddie yn ei amgylchedd newydd pan ddychwelodd i Abertawe ar gyfer aduniad gyda chyn-fyfyrwyr eraill. Yn ogystal â chael chyfle i hel atgofion, cafodd y cyn-fyfyrwyr daith o gwmpas y ddau gampws.
"Mae pethau wedi newid yn sylweddol - mae'n hollol wahanol i sut oedd pethau pan oeddwn i'n fyfyriwr. Bryd hynny, roedden ni mewn cytiau 'nissen' ar gampws Singleton. Nawr, mae Freddie yn hynod lwcus i allu manteisio ar y cyfleusterau arbennig.
“Brifysgol wedi bod yn un uchel ei pharch erioed, ond mae Campws y Bae - o'r labordai a'r offer i lety'r myfyrwyr - yn eithriadol."
Ar ôl gadael yr ysgol, enillodd Handel, sy'n wreiddiol o Ystalyfera ond sydd bellach yn byw ym Mangor Is-coed ger Wrecsam, ysgoloriaeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol i astudio peirianneg fecanyddol.
"Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd dyma'r brifysgol agosaf i fy nghartref ac roedd ganddi enw da iawn ar gyfer peirianneg a meteleg."
Pan oedd yn dal i fod yn Abertawe, cafodd Handel swydd gyda chwmni olew Shell: "Roedd Abertawe wedi sicrhau bod gennyf sylfaen gadarn yn namcaniaeth peirianneg fecanyddol, felly pan gefais fy swydd fel peiriannydd graddedig dan hyfforddiant ym mhurfa Stanlow ym Mhorthladd Ellesmere, fy nghyfrifoldeb i oedd rhoi'r sylfaen honno ar waith."
Cafodd yrfa lwyddiannus am 34 o flynyddoedd gyda'r cwmni, gan weithio yn y DU ac Ewrop, gan gynnwys amser fel pennaeth peirianneg yn Ceska Refinerska, y busnes olew mwyaf yn y Weriniaeth Tsiec.
Pan oedd yn gweithio yn Stanlow, cwrddodd â myfyriwr graddedig arall o Abertawe, Brian Payne, o Byfleet yn Surrey a astudiodd beirianneg gemegol ar yr un pryd â Handel. Mewn cyd-ddigwyddiad, priododd mab Handel â merch Brian, a chawson nhw ddau blentyn, Freddie a'i chwaer iau, Ailish.
"Roedd hyn yn golygu bod eisoes gan Freddie gysylltiad go iawn ag Abertawe cyn iddo hyd yn oed gofrestru yn y Brifysgol, ac rwyf wrth fy modd ei fod yn astudio yno nawr."
Mae Freddie, 19 oed, wedi rhannu diddordeb ei dad-cu mewn popeth sy'n ymwneud â pheirianneg ers amser hir, ac mae'n angerddol am feiciau modur a cheir, ac astudiodd am NVQ mewn mecaneg moduron yn ystod ei flwyddyn i ffwrdd cyn dechrau yn y brifysgol.
Dywedodd Freddie: "Rydw i'n mwynhau pwnc aerodynameg yn benodol. Dwi wedi ymuno â'r tîm aerodynameg sy'n gysylltiedig â Formula Student ac rwy'n mwynhau astudio effaith grymoedd ar adenydd. Rydw i nawr yn edrych ymlaen at astudio thermo-hylifau ar ôl y Nadolig.
"Mae Abertawe'n brifysgol groesawgar iawn, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i ymgartrefu'n gyflym a mwynhau bywyd yn y brifysgol."
Ychwanegodd Handel: "Rydw i wedi bod yn ffodus i gael gyrfa arbennig ym maes peirianneg, ac roedd hynny'n bosibl o ganlyniad i fy amser yn Abertawe.
"Rwyf mor falch y bydd Freddie nawr yn cael cyfle i fanteisio ar yr un cyfleoedd a oedd ar gael i mi."
Darllenwch fwy am Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Abertawe