Dyn yn dal tlws ochr yn ochr â menyw yn dal tystysgrif.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei ymroddiad i addysgu'r genhedlaeth nesaf o  ffarmacolegwyr.

Dr Aidan Seeley, sy'n Gyfarwyddwr y rhaglen Ffarmacoleg Feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yw enillydd gwobr uchel ei bri eleni yr Undeb Ffarmacoleg Sylfaenol a Chlinigol Ryngwladol, sef y Wobr am yr Addysgwr Gyrfa Gynnar Neilltuol.

Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniadau rhagorol at addysg ffarmacoleg yn rhyngwladol a chafodd ei chyflwyno yn Is-gyfarfod Cyngres Addysg Ffarmacoleg Sylfaenol a Chlinigol y Byd a gynhaliwyd ym Melbourne, Awstralia. Yn ogystal â'r anrhydedd, gwahoddwyd Dr Seeley hefyd i draddodi Darlith y Wobr.

Dywedodd Dr Seeley ei bod hi’n bleser ac yn fraint ganddo dderbyn y wobr: "Un o'r agweddau ar arwain y rhaglen Ffarmacoleg Feddygol sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw helpu myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i ymuno â'r genhedlaeth nesaf o ffarmacolegwyr a fydd yn darganfod meddyginiaethau newydd ac yn gwella'r rhai hynny sydd eisoes yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl.

"Mae'r wobr hon yn arbennig iawn am ei bod yn cydnabod nid yn unig fy ngwaith i, ond hefyd frwdfrydedd a chyfraniadau'r myfyrwyr, y cydweithwyr a'r cydweithredwyr niferus sydd wedi helpu i ddatblygu'r syniadau hyn."

Amlygodd y panel asesu rôl Dr Seely fel Prif Ymchwilydd Labordy Ymchwil Integreiddiol Mwydod Abertawe (SWIRL) sydd wedi arloesi'r defnydd o Lumbriculus variegatus - a adnabyddir yn fwy cyffredin fel y mwydyn du - fel model anifail amgen ar gyfer addysg gwyddor fiofeddygol.

Ychwanegodd: "Rwy'n hynod falch bod arloesi meddygol a ddatblygwyd yn Abertawe yn helpu i lunio addysg ffarmacoleg yn rhyngwladol.

"Yn SWIRL rydyn ni wedi datblygu dosbarthiadau sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio sut mae cyffuriau'n effeithio ar organebau byw mewn ffordd sy'n foesegol, yn fforddiadwy ac yn hygyrch, gan gyfrannu hefyd at ymchwil gan ddefnyddio'r organeb fodel hon.

"Mae hyn bellach wedi cael ei fabwysiadu gan sefydliadau addysg uwch ledled y DU ac Iwerddon, gan helpu miloedd o fyfyrwyr i gael profiad ymarferol o wyddoniaeth arbrofol.

"Mae addysg ar ei gorau pan fo dysgwyr yn cael eu cynnwys yn weithredol mewn darganfod yn hytrach na dysgu ffeithiau sefydledig yn unig. Drwy SWIRL, rydyn ni'n creu cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o ymchwil wyddonol go iawn, gofyn cwestiynau, profi syniadau a dysgu gan ganlyniadau annisgwyl yn yr un ffordd â gwyddonwyr proffesiynol."

Mae Dr Seeley hefyd ymhlith enillwyr blaenorol Gwobr Rang, sy'n cael ei dyfarnu gan Gymdeithas Ffarmacolegol Prydain i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol at addysgu ffarmacoleg.

 Rhagor o wybodaeth am Ffarmacoleg Feddygol yn Abertawe

 

Rhannu'r stori