Mae Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Prifysgol Abertawe wedi lansio rhaglen genedlaethol o weithdai a dosbarthiadau meistr Safon Uwch am ddim sydd â’r nod o wella dysgu ieithoedd a chefnogi cyflwyno cwricwlwm CA5 mewn ysgolion a cholegau ledled y DU.
Mae'r sesiynau allgymorth hyn ar gael ar-lein neu gellir eu cyflwyno'n bersonol ar gampws Parc Singleton y Brifysgol.
Mae'r rhaglen yn hyblyg iawn, gyda sesiynau y gellir eu teilwra i ddiwallu anghenion penodol grwpiau unigol. Gan dynnu ar arbenigedd eang yr adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r cynigion yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Destunau a ffilmiau gosod Safon Uwch.
- Sesiynau iaith-benodol mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, yn ogystal â sesiynau blasu mewn Eidaleg, Catalaneg, Portiwgaleg a Tsieinëeg Mandarin. Mae darpariaeth ar gael yn Gymraeg hefyd ar gyfer Ffrangeg a Sbaeneg.
- Cymorth ar gyfer ysgrifennu datganiad personol y Prosiect Ymchwil Annibynnol (IRP) neu UCAS.
- Sesiynau blasu prifysgol cyffredinol a gweithdai cyfoethogi pynciau.
Meddai Dr Federico Lopez-Terra, Arweinydd Pwnc ar gyfer Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd: “Mewn byd lle mae adeiladu pontydd yn bwysicach nag erioed, mae dysgu iaith yn fantais broffesiynol yn ogystal â gweithred o ymwybyddiaeth sy'n newid y ffordd rydych chi'n gweld y byd a'r bobl ynddo. Mae ieithoedd yn agor drysau yn fwy na dim byd arall.
“Yn Abertawe, rydym yn addysgu ieithoedd i’n myfyrwyr ac yn eu galluogi i ymgolli’n llwyr yn yr ieithoedd hyn. Mae ein darpariaeth wedi'i seilio ar ymchwil arloesol mewn cyfieithu, deallusrwydd artiffisial, a chaffael ieithoedd, yn ogystal â'r diwylliannau a'r cymunedau maen nhw'n eu cario gyda nhw. I ddisgyblion sy'n ymuno â'r sesiynau hyn, rydym yn gobeithio y byddant yn cynnig blas ar sut beth yw'r profiad hwnnw ac ar y llu o gyfeiriadau annisgwyl y gall ieithoedd eu cymryd.”
Meddai arweinydd y prosiect a Thiwtor Derbyn Myfyrwyr Dr Greg Herman: “Rydym wrth ein boddau yn cynnal y sesiynau rhad ac am ddim hyn, sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc i ddarganfod manteision dysgu ieithoedd sy’n newid bywydau, waeth ble maen nhw’n byw neu beth yw cwricwlwm eu hysgol. Maent hefyd yn cyflwyno tystiolaeth werthfawr o gyfranogiad allgyrsiol i'r rhai hynny sy'n ystyried astudio ieithoedd yn y Brifysgol.”
I gofrestru eich diddordeb neu os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch y tîm ieithoedd.