Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad

Mae ieithoedd yn agor drysau i ddiwylliannau, safbwyntiau a chyfleoedd newydd. I helpu myfyrwyr i archwilio'r posibiliadau hyn, rydym yn cynnig cyfres o ddosbarthiadau meistr, gweithdai a sesiynau blasu ar-lein am ddim. Wedi'u dylunio i gefnogi dysgu iaith ac ategu cwricwlwm CA5, nod y sesiynau hyn yw ceisio atgyfnerthu dysgu blaenorol a chyflwyno ieithoedd a syniadau newydd. Ar gyfer y rhai hynny sy'n ystyried ieithoedd yn y Brifysgol, maen nhw hefyd yn gyfle gwerthfawr i gyfoethogi'r pwnc ac arddangos ymgysylltiad allgyrsiol.

Yn hygyrch, yn ymgysylltiol ac yn hawdd eu cynnwys yn y diwrnod ysgol, ein nod yw arddangos gwerth a chyffro dysgu iaith wrth arddangos yr ystod eang o gyfleoedd sy'n mynd law yn llaw â dysgu iaith.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

Mae ein sesiynau’n cynnwys yr ystod eang o ieithoedd sy'n cael eu haddysgu yn yr Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Mae'r rhain yn cynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Catalaneg, Eidaleg, Tsieinëeg a Phortiwgaleg.

Ochr yn ochr â sesiynau rhagflas ar iaith, rydym yn cynnal sesiynau arbenigol ar bynciau sy'n ymwneud ag iaith, diwylliant, cymdeithas, cyfieithu ac ieithyddiaeth. Mae llawer o'r sesiynau wedi'u dylunio i ategu cwricwlwm Safon Uwch, tra bod eraill yn cyflwyno myfyrwyr i'r themâu a'r safbwyntiau na fyddant yn dod ar eu traws yn yr ysgol.

Yn benodol, mae sesiynau'n ymdrin â phynciau megis:

  • Ffrangeg: la langue inclusive; ynganu; barddoniaeth; y byd lle siaredir Ffrangeg; Indila; ôl-drefedigaeth, cof a hunaniaeth; La Rafle; Un Secret; La Haine
  • Almaeneg: bywyd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen; Almaeneg Busnes; sesiynau rhagflas ar yr iaith Almaeneg a dosbarthiadau meistr ynganu; Udo Lindenberg; Die Verwandlung
  • Sbaeneg: Y ddwy Sbaen; hunaniaethau amlgenedlaethol; Cymraeg y Wladfa; ser vs. estar; Treftadaeth Arabaidd a geiriau benthyg Sbaeneg; reggaeton; Sbaeneg Busnes; Nadolig yn y byd Sbaenaidd; Evaluna; Volver; María, llenna eres de gracia
  • Catalaneg, Tsieineeg, Eidaleg a Phortiwgaleg: Sesiynau rhagflas ar iaith

Mae sesiynau ychwanegol (sydd ddim yn benodol i iaith) yn cynnwys:

  • Technoleg a chaffael geirfa; yr IRP; Ceisiadau UCAS, y datganiad personol, ac ieithoedd yn y brifysgol; cyflwyniad i gyfieithu ar y pryd; cyfieithu ffilm a/neu gemau fideo unigol; manteision ac anfanteision cyfieithu peirianyddol

Hyblyg ac yn Hygyrch

Gall yr holl sesiynau allgymorth gael eu cyflwyno naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb ar Gampws Singleton. Gall sesiynau gael eu hamserlennu yn ystod gwersi, sesiynau gyda thiwtor, gweithgareddau cyfoethogi, digwyddiadau amser cinio, neu raglenni gyrfaoedd, gan eu gwneud yn hawdd i integreiddio i amserlenni presennol. Ac os oes pwnc penodol fyddai'n fuddiol i'ch myfyrwyr, sydd heb ei restru uchod, cysylltwch â ni oherwydd efallai y bydd modd i ni greu sesiwn mwy arbenigol ar gyfer eich grŵp.

O ystyried eu ffocws, mae sesiynau ar gael yn benodol ar gyfer myfyrwyr ym mlynyddoedd 12-13, gyda phwyslais penodol ar gefnogi cyrhaeddiad a dilyniant i astudiaethau iaith ôl-18.

Rhesymeg

Mae ymchwil yn dangos yn gyson y buddion personol, diwylliannol a phroffesiynol o ddysgu iaith. Fodd bynnag, mae cyfranogiad mewn ieithoedd modern yn y DU yn parhau i ostwng. Rydym yn credu y gall ymyriadau bach, penodol chwarae rôl bwysig wrth gynyddu dyheadau, ehangu gorwelion, ac annog myfyrwyr i barhau i astudio ieithoedd y tu hwnt i addysg orfodol.

Mae'r sesiynau hyn yn ffurfio rhan o ymrwymiad ehangach Prifysgol Abertawe i gefnogi dysgu iaith, hyrwyddo amlieithrwydd, a chryfhau partneriaethau ag ysgolion a cholegau ar draws Cymru a'r DU.

Trefnwch sesiwn

I gyflwyno cais am sesiwn ar gyfer eich ysgol neu goleg, e-bostiwch languages@abertawe.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drefnu dyddiadau, amseroedd a'r sesiynau sydd orau i'ch myfyrwyr.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi a'ch dysgwyr.

Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad