Croeso i hafan CICC, sef Canolfan Ieithoedd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe. Rydym yn yr Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, lle rydym yn darparu ac yn datblygu modiwlau cyffrous i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio elfennau o’u gradd Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg.

 Beth rydym yn ei wneud:

  • Addysgu modiwlau cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Datblygu strategaeth dros addysg Gymraeg yn unol â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Trefnu cynadleddau, cyrsiau haf, ymweliadau ag ysgolion a digwyddiadau eraill i hybu Ieithoedd Modern

Mae Ysgoloriaethau Israddedig gwerth hyd at £3,000 dros dair blynedd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio elfennau o’u gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.