Mae malwod môr yn un o'r grŵp amrywiol o anifeiliaid sy'n byw o fewn glaswellt môr sy'n helpu i gynnal rhwydwaith bwyd môr cynhyrchiol.
Mae astudiaeth newydd o ecosystemau arfordirol Ynysoedd Prydain wedi datgelu bod cyfoethogiad nitrogen yn lleihau'r toreithrwydd ac amrywiaeth o fywyd morol yn sylweddol.
Mae'r ymchwil, sydd wedi'i chyhoeddi gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe a'r elusen Project Seagrass, yn rhybuddio bod cynyddu llifoedd maethol yn goruwchlywodraethu amodau cynefinoedd lleol i ailstrwythuro a disbyddu bioamrywiaeth arfordirol.
Er bod ffiniau'r blaned ar gyfer llifoedd nitrogen a ffosfforws eisoes wedi'u rhagori'n fyd-eang, mae'r astudiaeth hon yn darparu asesiad graddfa fawr, unigryw, o sut mae'r maethynnau hyn yn effeithio ar amrywiaeth graddfa fanwl ein harfordiroedd.
Mae ffactorau sy'n achosi'r llygredd yn cynnwys carthion, gwastraff amaethyddol a rheoli tir mewn ffordd aneffeithiol.
Archwiliodd yr astudiaeth ddolydd morwellt mewn 16 amgylchedd morol gwahanol, gan gynnwys aberoedd, morlynnoedd, ac ynysoedd. Roedd y rhain yn amrywio o Ynysoedd Orkney ac Aber Gweryd i gulfor Solent ac Ynys Wyth.
Roedd y canfyddiadau'n noeth: roedd crynodiadau uwch o nitrogen yn gysylltiedig yn gyson â lleihad yn nifer yr anifeiliaid a chyfoethogrwydd y rhywogaethau.
Yn benodol, canfu ymchwilwyr y gallai cynnydd mewn nitrogen gyfateb i tua 90% o’r lleihad mewn amrywiaeth o fywyd fesul uned o ardal gynefin sydd ar gael.
Meddai'r awduron: "Mae ewtroffigedd, sef y broses o gyfoethogi dŵr â maethynnau'n parhau'n un o'r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd mewn dyfroedd arfordirol, yn benodol o ran colli bioamrywiaeth."
Canfyddiadau allweddol:
- Nitrogen fel ysgogydd: Roedd cyfoethogi nitrogen yn ysgogydd cyson o golli bioamrywiaeth ar draws y DU, hyd yn oed wrth ystyried cymhlethdod ffisegol yr amgylchedd;
- Sensitifrwydd cynefinoedd: Dangosodd amgylcheddau arfordirol a morlynnoedd y lleihad cryfaf gyda chyfoethogiad uwch. Yn benodol, roedd ffosfforws yn dangos ei fod yn cael effaith negyddol iawn ar fywyd mewn amgylchrddau morlynnoedd;
- Effaith benodol y safle: Er bod ychydig o gyfoethogi canolig yn cael ei oddef mewn lleoliadau aberol penodol, roedd rhagor o gyfoethogi mewn mannau arfordirol yr effeithiwyd arnynt eisoesgwaethygu'r golled o rywogaethau; ac,
- Y tu hwnt i strwythur ffisegol: Yn syndod, nid oedd priodoleddau ffisegol llystyfiant morol (megis hyd dail neu fiomas) yn cael effaith fawr ar amrywiaeth o'i gymharu ag effaith fawr y cyfundrefnau maethynnau lleol.
Mae'r ymchwilwyr yn dadlau bod targedau cadwraeth rhanbarthol presennol yn annigonol. Oherwydd bod effeithiau maethynnau'n "ddibynnol ar gyd-destun", mae rheolaeth effeithiol yn gofyn am strategaethau sydd wedi'u teilwra ar gyfer cyflyrau ecolegol penodol y safle.
Canfuwyd: "Mae ein canfyddiadau'n dangos bod ewtroffigedd yn addasu bioamrywiaeth mewn ffyrdd cymhleth.
"Bydd angen lleihad mewn maethynnau sy'n benodol i'r safle, a strategaeth fonitro sy'n amlygu amodau lleol yn hytrach na thargedau rhanbarthol ailadroddus er mwyn ei rheoli'n effeithiol."
Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Project Seagrass. Defnyddiodd y tîm ddulliau samplu safonol a modelu aml-effaith i arunigo ysgogwyr bioamrywiaeth ar draws morlun y DU.