Menyw yn ysgrifennu ar fwrdd gwyn o flaen tri pherson arall mewn ystafell gyfarfod.

Mae consortiwm addysg uwch, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, wedi cael buddsoddiad mawr tuag at ymchwil i faterion sy'n ymwneud â lles drwy'r celfyddydau a'r dyniaethau.

Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI (AHRC) wedi dyfarnu cyllid i Lles, consortiwm o brifysgolion Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a chyrff cyhoeddus a thrydydd sector yng Nghymru. Dros y pedair blynedd nesaf, bydd yn creu ac yn ariannu 28 o ysgoloriaethau ymchwil PhD.

Ystyr y gair lles yw budd neu lesiant ac fe'i dewiswyd yn benodol gan y bydd y garfan hon o fyfyrwyr yn elwa o hyfforddiant a datblygiad gyrfa a bydd eu hymchwil i les o fudd i'r gymdeithas ehangach yng Nghymru a’r tu hwnt.

Caiff y myfyrwyr PhD eu recriwtio dros bedair blynedd a byddant yn archwilio'r agweddau celfyddydol, diwylliannol a chymdeithasol ar les mewn amrywiaeth o leoliadau Cymreig a rhyngwladol, rhai'r gorffennol a'r presennol. Byddant yn cael rhaglen hyfforddi bwrpasol a hefyd yn ymgymryd â lleoliad gwaith mewn corff cyhoeddus yng Nghymru i gyfnewid gwybodaeth a sgiliau.

Mae'r garfan gyntaf o brosiectau PhD bellach wedi'i chyhoeddi a'r thema yw pobl a lleoedd iach, fel a ganlyn:

  • Ysgrifennu Creadigol ac Ecolegau Lle mewn Ymarfer Cyfunol (Prifysgol Bangor);
  • Gweithgareddau Galluogi: Naratifau Iechyd a Lles yng Nghymru a'r Tu Hwnt (Prifysgol Caerdydd); 
  • Rôl y Celfyddydau Mynegiannol wrth Gefnogi Datblygiad Iaith ac Effaith hyn ar Les ymhlith Dysgwyr Dwyieithog Ifanc 7-11 oed. (Prifysgol Metropolitan Caerdydd); 
  • Ymgorffori darlunio wrth gyd-gynhyrchu cymorth penderfynu atal a rheoli heintiau ar gyfer pobl â Ffeibrosis Systig (Prifysgol Metropolitan Caerdydd); 
  • Cyd-greu Ymyriadau Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Amgylcheddau Hosbis a Gofal Lliniarol (Y Brifysgol Agored);
  • Cymryd Chwarae o Ddifrif: Plentyndod, Chwarae a Llunio Polisïau yng Nghymru, o 1945 tan y Presennol (Prifysgol Abertawe); 
  • O Wreiddiau Gyrca i Berthyn i Gymru: Dysgu gan Hanes Diwylliannol a Lles y Gymuned Nepalaidd yng Nghymru (Prifysgol De Cymru); a,
  • Deall Profiadau Plant a Phobl Ifanc o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol drwy Ddulliau sy'n Seiliedig ar y Celfyddydau ac Adrodd Straeon (Prifysgol De Cymru)

Meddai arweinydd prosiect Lles, yr Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe: "Dyma gyfle cyffrous i fyfyrwyr ac i ymchwil yng Nghymru. Yn ogystal ag ymgymryd â graddau PhD, bydd myfyrwyr Lles hefyd yn cael hyfforddiant gwerthfawr mewn amrywiaeth ehangach o sgiliau a fydd yn eu paratoi i gyfrannu at gymdeithas yng Nghymru a'r tu hwnt.

“Bydd eu hymchwil yn dangos gwerth y celfyddydau a'r dyniaethau er mwyn deall yr heriau mae cymdeithas yn eu hwynebu a mynd i'r afael â nhw.”

 Meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: "Mae Lles yn cynrychioli'r union fath o arweinyddiaeth hirdymor, ar sail gwerthoedd, y cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei llunio i'w hysbrydoli. Drwy wneud nodau a ffyrdd o weithio'r Ddeddf yn elfennau annatod o ddysgu o'r cychwyn cyntaf, mae'r prosiect hwn yn hyfforddi myfyrwyr i feddwl y tu hwnt i'r tymor byr ac i weithredu er lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.”

Mae Lles yn un o nifer o Ddyfarniadau Doethuriaeth Ffocal yn yr economi greadigol a'r celfyddydau a'r dyniaethau ar gyfer planed, pobl a lleoedd iach. Bydd y dyfarniadau doethuriaeth ffocal hyn yn hyrwyddo'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gan gynnig hyfforddiant ar gyfer y dyfodol mewn meysydd sy'n hanfodol i economi greadigol a lles cymdeithasol y DU.

Dysgwch fyw am ein hymchwil

 

Rhannu'r stori