Dr Roberto Angelini

Dr Roberto Angelini

Darlithydd, Biomedical Sciences
Swyddfa Academaidd - 328
Trydydd Llawr - Neuroscience
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Prif ddiddordeb gwyddonol Dr Angelini yw’r cysylltiad rhwng strwythurau cemegol lipidau a’u swyddogaeth fiolegol. Fel rheol, mae’n defnyddio sbectromedreg màs i gynnal astudiaethau lipidomeg fel y cymhwysir hwy i ymchwil biofeddygol. Drwy astudio swyddogaeth fiolegol lipidau, mae’n hyderus y gallwn gynyddu ein dealltwriaeth o fecanweithiau sylfaenol nifer o glefydau.

Derbyniodd Dr Angelini Radd Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bari yn labordy Angela Corcelli lle cafodd hyfforddiant ar ddehongli cyfansoddiad lipidaidd biobilenni celloedd archaeaidd, bacteriol ac ewcaryotig, sy’n agored i addasiadau amgylcheddol gwahanol gan gynnwys straen osmotig, yr ocsigen sydd ar gael, a chysylltiad â chyfansoddion sy’n weithredol yn ffarmacolegol. Yn Labordy Corcelli, datblygodd ddulliau dadansoddol yn seiliedig ar broffilio lipidau ar gyfer gwaith ymchwil biofeddygol a rhaglenni clinigol. Yn ddiweddarach, mireiniodd ei wybodaeth a’i sgiliau technegol mewn sbectromedreg màs yn labordai Valerian Kagan ym Mhrifysgol Pittsburgh a Daniele Piomelli ym Mhrifysgol Califfornia, Irvine. 

Dychwelodd i Ewrop gyda Chymrodoriaeth MSCA-COFUND i weithio yn labordy Griffiths-Wang ym Mhrifysgol Abertawe lle datblygodd raglenni sbectromedreg màs i ddelweddu sterolau yn yr ymennydd. Yma derbyniodd ei swydd gyntaf mewn cyfadran a hynny fel Darlithydd (Ymchwil Uwch) yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Lipidomeg
  • Biocemeg Lipidau
  • Biocemeg Ddadansoddol
  • Sbectromedreg Màs
  • Niwrowyddoniaeth
  • Mitocondria

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Biocemeg Lipidau

Bioleg Pilenni

Niwrogemeg

Credaf yn gryf fod gwaith ymchwil ac addysgu cyn bwysiced â’i gilydd: er mwyn dadlennu rolau amrywiol lipidau mewn iechyd a chlefydau, bydd gofyn cael dull rhyngddisgyblaethol y bydd angen hyfforddi cenedlaethau newydd ar ei gyfer. Yr hyn sy’n nodweddiadol am lipidau yw amrywiaeth eang eu strwythur sy’n efelychu amrywiaeth eu swyddogaethau biolegol. Egluro prif rolau lipidau mewn prosesau cellol yw’r ffin nesaf ym maes ymchwil bioleg. I’r perwyl hwn, bydd yn rhaid i fiocemegwyr, biolegwyr celloedd, ffisegwyr a thechnolegwyr gwybodaeth gydweithio. Fy nod yn y pen draw yw gwneud cyfraniad perthnasol yn y cyfeiriad hwn drwy gefnogi myfyrwyr yn eu llwybrau addysgol.

Ymchwil