Trosolwg
Mae Marcela wedi bod â diddordeb craidd mewn Anatomeg Ddynol ers dros 20 mlynedd. Mae hi'n un o'r prif anatomyddion o fewn y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (GEM) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ers 2015. Trwy ei harbenigedd mae'n defnyddio strategaethau dysgu cyfunol wrth ddatblygu gwybodaeth anatomeg yn gynyddol. Yn 2016 mae Marcela wedi’i phenodi’n arweinydd modiwl ar gyfer y modiwl Anatomeg ar gyfer y rhaglen radd BSc Gwyddor Feddygol Gymhwysol. Mae hi'n mynd ati'n rhagweithiol i gyflwyno sesiynau Anatomeg i gynulleidfa amrywiol megis o fewn y diwrnod hwyl i'r Teulu, cwrs DPP Anatomeg Ymarferol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, nosweithiau Cymdeithas Gofal Iechyd Integredig, sgwrs Gŵyl Peint o Wyddoniaeth, sesiynau ffisiotherapyddion Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Gan mai Anatomeg yw ei hangerdd ac yn benodol, anatomeg 3D ymarferol, mae hi'n trefnu cyrsiau dyrannu allgyrsiol hynod boblogaidd ar gyfer myfyrwyr meddygol yr ail flwyddyn ddwywaith ym mhob blwyddyn academaidd. Mae hi hefyd yn academydd gweithgar gan fynychu gweithdai, cyfarfodydd a chynadleddau rhyngwladol amrywiol yn ei meysydd arbenigol ac addysg feddygol. Ers 2016 mae'n aelod o Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac ers 2019 yn Gynrychiolydd Senedd Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Fel cydnabyddiaeth i’w hymroddiad addysgu, cafodd ei henwebu gan staff a myfyrwyr ar gyfer Gwobrau Athro Clinigol y Flwyddyn BMA/BMJ 2020 yng Nghymru.