Golwg o Gampws Singleton a’r bae gyferbyn o’r awyr
Llun proffil o Dr Lowri Williams

Dr Lowri Williams

Cydlynydd Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA), Education and Childhood Studies

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
250
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Mae gan Lowri Williams BA (Anrh) a PhD o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ganddi brofiad o ddarlithio yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn prifysgolion ar draws Ewrop, sef Prifysgol Galway, Prifysgol Freiburg a’r IUFM d’Alsace yn Strasbourg.

Bu Lowri hefyd yn gweithio am bron i 20 mlynedd yn Adran Addysg BBC Cymru, gan gynhyrchu adnoddau dysgu dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion ar draws llwyfannau amrywiol, gan gynnwys radio, teledu ac ar-lein yn ogystal â threfnu digwyddiadau proffil uchel ledled Cymru i hyrwyddo allbwn.

Mae ganddi brofiad helaeth ym maes cyfieithu a phrawfddarllen ar ôl dysgu cwrs cyfieithu ym Mhrifysgol Freiburg, ac fel Arweinydd Golygyddol cynnwys Cymraeg Adran Addysg BBC Cymru a Chymwysterau Cymru.