Trosolwg
Enillodd yr Athro Martin Sheldon gymhwyster llawfeddyg milfeddygol ym 1984 a bu'n gweithio mewn ymarfer clinigol am 14 o flynyddoedd. Wrth iddo ymarfer, dyfarnwyd diplomâu i'r Athro Sheldon am ei waith ar iechyd a ffrwythlondeb.
Symudodd yr Athro Sheldon i'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn Llundain ym 1998, lle gwnaeth addysgu atgenhedlu milfeddygol a sefydlu ei ddiddordebau ym meysydd heintiau ac imiwnedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dyfarnwyd PhD iddo hefyd gan Brifysgol Lerpwl, dan oruchwyliaeth yr Athro Hilary Dobson.
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Datblygu Ymchwil y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol i'r Athro Sheldon yn 2006 er mwyn archwilio rhyngweithiadau ymysg heintiau, imiwnedd ac atgenhedlu. Yn 2018, dyfarnwyd Cadair Bersonol mewn imiwnobioleg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe i'r Athro Sheldon.