Trosolwg
Mae April yn imiwnolegydd monocytau, ond mae ganddi ddiddordeb mewn celloedd T hefyd. Dyfarnwyd PhD i April gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn 2022 am ei hymchwil i’r ymaddasiadau metabolaidd ac imiwnolegol yn ystod beichiogrwydd. Mae gan April ddiddordeb mawr mewn astudio ymaddasiadau imiwnolegol cyflyrau amrywiol, gan gynnwys beichiogrwydd ac anhwylderau atgenhedlu.
Mae April yn defnyddio technegau sbectrometreg màs a sbectrosgopeg newydd er mwyn ceisio darganfod biofarcwyr yn y gwaed. Ei nod cyffredinol yw rhoi ei hymchwil ar waith mewn lleoliad clinigol, gan ddatblygu dulliau diagnostig a therapiwtig gwell.