Institute of Life Science 2 Internal Atrium.jpg
Professor Andrew Morris

Yr Athro Andrew Morris

Athro mewn Fferylliaeth, Pharmacy

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606106

Cyfeiriad ebost

262
Llawr Cyntaf
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Andrew Morris yn Bennaeth Fferylliaeth ac Athro Addysg Fferylliaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Mae’n arwain y tîm fferylliaeth sy’n datblygu rhaglen MPharm ddiweddaraf y DU. Canolbwyntia ei ddiddordebau ymchwil ar gyflenwi cyffuriau a pheirianneg meinwe, fferylliaeth ac addysg feddygol ac yn gynyddol mewn gwyddor data iechyd. Mae gan Andrew ddiddordeb mawr mewn rhyngwladoli addysg uwch. Cyn hynny bu’n Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Nottingham Malaysia ac roedd yn rhan o’r tîm a sefydlodd y radd MPharm gyntaf a achredwyd gan y GPhC i’w chyflwyno, yn rhannol, y tu allan i’r DU. Mae'n arwain ar ryngwladoli ar gyfer yr Ysgol Feddygol. Bu Andrew yn fferyllydd yn y sectorau fferylliaeth gymunedol a gofal sylfaenol cyn cychwyn ar ei yrfa mewn addysg uwch. Mae’n un o sylfaenwyr y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, mae’n fferyllydd cofrestredig gyda’r GPhC ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae Andrew yn rhedwr brwd ac mae hefyd yn mwynhau sgwba-blymio.

Meysydd Arbenigedd

  • Dosbarthu Cyffuriau
  • Peirianneg meinwe
  • Addysg fferylliaeth