OTGONTUYA DAVAANYAM - YSGOLHAIG HERIAU BYD-EANG

Gall Otgontuya Davaanyam ddweud â balchder ei bod yn hanu o Wlad yr Wybren Las, sef Mongolia. Cyfreithwraig ymroddedig yw Otgontuya sy’n credu y gall unrhyw un, drwy angerdd ac addysg, wneud gwahaniaeth yn y byd hwn. Yn ôl un o ddiarhebion Mongolia, ‘Gosodwch drefn arnoch eich  hun, yna ar eich teulu, ac yna ar eich Llywodraeth’. Heddiw yn Abertawe, gyda chymorth Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton a Sky, mae hi’n ei haddygsu ei hun ac yn ymlafnio bob dydd i wneud ei gorau glas fel y gall helpu’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ei gwlad enedigol a ledled y byd.

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFAOL

Graddiodd Otgontuya o Brifysgol y Gyfraith Shihihutug gydag LL.B mewn Cyfraith Busnes. Ar ôl iddi hi ennill ei gradd yn y gyfraith, gweithiodd fel cyfreithwraig gorfforaethol i un o’r prif gwmnïau masnachol ym Mongolia. Wedi iddi gael ei derbyn i Gymdeithas Bar Mongolia, penderfynodd barhau â’i gyrfa gyfreithiol yn y cwmni cyfreithiol rhyngwladol Anderson and Anderson lle y bu’n cynrychioli cleientiaid gerbron canolfannau cymrodeddu rhyngwladol, gan gynnwys Canolfan Cymrodeddu Rhyngwladol Hong Kong a Llys Cymrodeddu Rhyngwladol Llundain.

Wrth iddi barhau â’i gyrfa mewn cyfraith busnes, bu’n cymryd rhan weithgar yn nigwyddiadau Pwyllgor Cyfreithwyr Pro Bono Cymdeithas Bar Mongolia. Ar ôl gweithio fel cyfreithwraig yn y sector busnes am 5 mlynedd, roedd Otgontuya yn dymuno newid ei gyrfa i faes hawliau dynol fel y gallai weithio dros y gymdeithas mewn ffordd amlycach. Diolch i gymorth Ysgoloriaeth Cyfraith Hodgson, cafodd ei gradd meistr yn y gyfraith mewn Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol o Brifysgol Lerpwl. Pan fuodd yn astudio cyfraith hawliau dynol, daeth yn fwy angerddol am faterion busnes a hawliau dynol ac yna bu’n gweithio i’r Ganolfan Adnoddau Busnes a Hawliau Dynol yn Llundain fel intern atebolrwydd cyfreithiol corfforaethol. Ar ben hyn, arweiniodd ei hangerdd i weithio ym maes caethwasiaeth fodern a llafur plant ati’n derbyn interniaeth yng nghwmni Fifty Eight i weithio ar brosiect llafur plant UKAid.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Mae diddordeb ymchwil Otgontuya yn gorwedd ym maes busnes a hawliau dynol – yn enwedig achosion o gorfforaethau sy’n torri hawliau dynol yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang, effaith busnesau ar newid yn yr hinsawdd yn ogystal â hawliau plant.

Roedd ei thraethawd estynedig blaenorol wedi ymchwilio i’r ffordd y gellir dal corfforaethau’n atebol am eu dylanwad dros lafur plant yn y diwydiant coco. Ar ben hyn, ym Mhrifysgol Abertawe, mae ei phrosiect ymchwil diweddar yn canolbwyntio ar ddadansoddi offer ac ymarferion cyfreithiol rhyngwladol sy’n gysylltiedig â busnes a hawliau dynol er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol ag achosion o dorri hawliau dynol yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AR GYFER Y DYFODOL

"Ar ôl imi orffen y Rhaglen Heriau Byd-eang, hoffwn i ymarfer yr hyn y byddaf wedi’i ddysgu yn ystod y rhaglen hon. Yn sgîl y rhaglen, mae gen i angerdd diwyro a gwybodaeth gadarn er mwyn gweithio dros lawer o heriau byd-eang dybryd, felly hoffwn i gael fy recriwtio mewn sefydliad rhyngwladol neu gorfforaethol lle y bydd cyfle i wynebu materion byd-eang o’r fath ar lawr gwlad. Yn fwy penodol, yn y lle cyntaf, hoffwn i herio fy hun mewn sefydliad rhyngwladol fel y galla i gyfrannu fy ngwybodaeth ym maes cyfraith a rheoleiddio rhyngwladol mewn perthynas â materion busnes a hawliau dynol neu newid yn yr hinsawdd.

Ar ôl imi ennill digon o brofiad ar y lefel ryngwladol, hoffwn i ymarfer fy mhrofiad a’m gwybodaeth er mwyn datrys y materion heriol yn fy ngwlad enedigol. Rwy eisiau ymladd yn erbyn tlodi eithafol a thrais yn erbyn plant a menywod. Ar ddiwedd y dydd, rwy eisiau bod yn fenyw fel Hillary Clinton a bod yn esiampl ar gyfer llawer o fenywod Mongolia fel y gallan nhw ymrymuso’u hunain a dod yn rhan o’r genhadaeth i newid ein gwlad.”

GWAITH A PHROSIECTAU OTGONTUYA Y MAE WEDI CYDWEITHREDU Â NHW A CHYMRYD RHAN YNDDYNT

Capital Markets of Mongolia, The Mining Law Review

Tachwedd 2016 (Awdur Cyfrannol)

Capital Markets of Mongolia, The Mining Law Review

World Justice Project’s Rule of Law Index

Mawrth 2017 (Ymchwilydd Cyfrannol)

World Justice Project’s Rule of Law Index

The World Bank Group’s Doing Business Annual Report: Mongolia Section

Tachwedd 2017 (Ymchwilydd Cyfrannol)

The World Bank Group’s Doing Business Annual Report: Mongolia Section