Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton

Ar gyfer dinas Glasgow, mae'r mis Tachwedd hwn wedi bod yn anarferol o fywiog... Ar un ochr y ffordd ceir protestiadau gan actifyddion hinsawdd, ac ar yr ochr arall ceir rhesi o heddlu a swyddogion diogelwch yn diogelu ardal y parth glas, lle mae arweinwyr byd a busnes, eiriolwyr ieuenctid, entrepreneuriaid a chynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig yn trafod materion newid yn yr hinsawdd.

Wrth i'r hofrenyddion hedfan uwchben yn cynnal eu gwiriadau diogelwch rheolaidd, gellir teimlo pwysau creu hanes gan y rhai hynny sy'n crwydro'r strydoedd prysur. Mae cymysgedd o gyffro, gobaith, disgwyliad a thensiwn.

Mae COP26 wedi dod â mwy na 30,000 o gynrychiolwyr o dros 180 o wledydd ynghyd i fynd i'r afael â her fyd-eang newid yn yr hinsawdd.  Mae pobl wedi dod i gyfnewid syniadau, cyflwyno eu gwaith ymchwil a (gobeithiwn) wneud penderfyniadau a fydd yn atal difrod amgylcheddol anghildroadwy.

CYNRYCHIOLI UN O'R PRIF BARTNERIAID

Yr wythnos hon, rydym wedi cael y cyfle i gynrychioli Sky, Prifysgol Abertawe a Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton yn COP26. Sky yw noddwr ein rhaglen ysgoloriaethau ond mae hefyd yn un o brif bartneriaid a phartner cyfryngau'r Uwchgynhadledd.

Mae stondin Sky Zero yn brofiad gwirioneddol ymdrochol. Mae'r waliau byw a'r eco-fwa yn hafan bêr.  Mae'r holl blanhigion a'r deunyddiau byw wedi'u rhentu ac wedi'u canfod mewn ffordd gynaliadwy gan feithrinfa leol. Mae'r feithrinfa'n dyfrhau ei phlanhigion yn ei phencadlys o ffynnon naturiol - maen nhw'n gwmni cynaliadwy a charbon niwtral. Bydd y planhigion yn cael eu dychwelyd i'r feithrinfa unwaith bydd COP26 wedi dod i ben, lle byddant yn cael eu hail-blannu ac yn parhau i dyfu.

Mae stondin Sky Zero yn lle i aros, allanadlu a dianc am eiliad o brysurdeb coridorau'r Uwchgynhadledd. Mae'r fynedfa fwaog yn arwain i'r Sky Globe lle caiff gwesteion eu gwahodd i wneud addewid i leihau eu hallyriadau personol. Unwaith byddant yn gwneud eu haddewid, byddant yn cael pecyn o hadau cynaliadwy i fynd adref â nhw.  Drwy feithrin planhigion, gallwn amsugno mwy o garbon, a gallwn hefyd ddiogelu sinciau carbon (megis planhigion a choedwigoedd).

the sky garden at COP 26

YMRODDEDIG I GYRRAEDD SERO-NET ERBYN 2030

Wrth weithio gyda thîm Sky, rydym wedi cael y cyfle i ddysgu sut mae Sky yn trechu newid yn yr hinsawdd. Mae Sky yn ymroddedig i gyrraedd sero-net erbyn 2030 ar draws ei gadwyn werth gyfan. Mae hyn yn cynnwys atebion arloesol er enghraifft, eu teledu ‘Sky Glass’ newydd sef y teledu cyntaf yn y byd i gael ei ardystio i fod yn gynnyrch CarbonNeutral©. Mae Sky'n gweithio i gynhyrchu llai o CO2 wrth amsugno mwy...drwy blannu mangrofau, coed a morwellt, i ymgyrchu gydag WWF i adfer, meithrin a diogelu sinciau carbon.

Sara Pan Algarra

Sara Pan Algarra

Felicity Mulford

Felicity Mulford

CYNNWYS PAWB O BLANT YSGOL I ENTREPRENEURIAID IFANC

Mae'r profiad wedi ein galluogi i glywed gan ystod o randdeiliaid, ac mae gan bob un ohonynt rôl i'w chwarae yn y frwydr hon. Mae hyn yn cynnwys pawb o blant ysgol, i entrepreneuriaid ifanc sy'n lansio platfformau newydd ar gyfer eiriolaeth, i ddarparwyr ynni'r DU sy'n newid eu modelau busnes i sicrhau eu bod yn cyrraedd sero-net.

Mae wedi bod yn wych cael ein hamgylchynu gan bobl sydd hefyd yn angerddol am ysgogi newid. Gobeithiwn bydd yr egni hwn yn cael ei adlewyrchu yn y penderfyniadau a wneir gan arweinwyr y byd. Nid yw'n ddigon da i siarad am atal newid yn yr hinsawdd - mae'n rhaid i ni weithredu.

Ddydd Mawrth 2 Tachwedd, bu'r actifydd ifanc 14 oed, Vinisha Umashankar, yn annerch arweinwyr y byd yn COP26. Yn ei geiriau llawn ysbrydoliaeth... "Mae gennym bob rheswm i fod yn grac. Ond nid oes gennyf amser i fod yn grac. Rwyf am weithredu...Heddiw rwy'n gofyn, gyda phob parch, ein bod yn stopio siarad ac yn dechrau gweithredu".