AUGUST DICHTER - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG

Ganwyd August Dichter yn nghrud Democratiaeth America, sef Philadelphia, a chafodd ei fagu gan rieni a oedd yn addysgwyr a gredai yng ngwerth defnyddio addysg a chelf i newid y byd. Taniwyd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth drwy ddysgu a chwerthin wrth wylio rhaglenni newyddion dychanol ar ddechrau'r degawd 2000. Rhoddodd comedi gyfle iddo ddysgu am bynciau gwleidyddol cymhleth megis diwygio cyllid ymgyrchu a gerimandro. Yn ei astudiaethau israddedig, newidiodd ei ffocws i ddeall gallu'r cyfryngau i feirniadu a chreu naratifau strategol. Drwy gydol ei astudiaethau, mae August wedi parhau i fod yn angerddol am ryddid y cyfryngau a llythrennedd am y cyfryngau.

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFA

Yn 2019, graddiodd August o Goleg Eckerd, gan ennill Gwobr Murphy-Rackow i gydnabod perfformiad neilltuol mewn Gwyddor Wleidyddol. Yn ei draethawd estynedig israddedig, canolbwyntiodd ar y ffyrdd y gall ecosystem fodern y cyfryngau elwa o newyddion dychanol. Cafodd ei ganfyddiadau sylw ar raglen radio On Point NPR a'u cyflwyno yng nghynhadledd y National Political Science Honor Society yn Washington DC.

Y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae August wedi archwilio sut mae sianelau'r cyfryngau'n cyfleu negeseuon gwleidyddol. Mae'r profiadau hyn yn cynnwys creu papur newydd dychanol, interniaeth ar y rhaglen deledu gyda'r hwyr, Full Frontal with Samantha Bee, a gweithio fel cynorthwy-ydd ysgrifennwr yn Crooked Media, cwmni podlediadau a reolir gan aelodau tîm cyfathrebu’r cyn Arlywydd Barack Obama.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Yn ystod ei leoliad gwaith ar gyfer y rhaglen hon, bydd August yn ymchwilio i gylch bywyd Deddf y Gwasanaethau Digidol, y ddeddfwriaeth sydd â'r nod o ddemocrateiddio'r rhyngrwyd ymhellach yn yr UE. Bydd hefyd yn ymchwilio i sut gall polisi cyhoeddus rwystro ymgyrchoedd twyllwybodaeth.

Gan fod twyllwybodaeth yn bygwth tanseilio sefydliadau democrataidd ledled y byd, mae August yn gwybod y bydd y rhaglen Heriau Byd-eang yn rhoi iddo'r fframwaith a'r mewnwelediad i arweinyddiaeth a pholisi byd-eang i ateb rhai o'i gwestiynau mwyaf. Mae meysydd arbenigedd August yn cynnwys newyddion dychanol a chynhyrchu yn y cyfryngau.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AM Y DYFODOL

"Fy ngobaith am y dyfodol yw y gallaf ddylanwadu ar bolisi a chreu cynnwys addysgol ar gyfer darlledu cyhoeddus a fydd yn defnyddio hiwmor i wrthsefyll camwybodaeth a thwyllwybodaeth.

Mae rhai o'r pethau eraill hoffwn i eu gwneud ar y daith yn cynnwys: creu cwricwlwm addysg cenedlaethol a fydd yn cyflwyno darlun mwy cywir o wirioneddau tywyll hanes yr UD fel y gallwn baratoi'n well am yr heriau sydd o'n blaenau, ysgrifennu ar gyfer y Weekend Update ar SNL a meddwl am ffyrdd o gyfrannu at y frwydr am ryddid y cyfryngau ledled y byd."

CYDWEITHREDIADAU AUGUST A PHROSIECTAU MAE E WEDI GWEITHIO ARNYNT

THEMA TRAETHAWD ESTYNEDIG ISRADDEDIG AUGUST OEDD

“The Political Effectiveness of the Satirical News Desk”

 “The Political Effectiveness of the Satirical News Desk”

CAFODD TRAETHAWD ESTYNEDIG ISRADDEDIG AUGUST SYLW AR RAGLEN ON POINT NPR

“Class of 2019: It’s time for the Senior Thesis Showcase”, 14 Mai, 2019

“Class of 2019: It’s time for the Senior Thesis Showcase”, 14 Mai, 2019

CYFLWYNODD AUGUST EI DRAETHAWD ESTYNEDIG YNG NGHYNHADLEDD YMCHWIL GENEDLAETHOL

a gynhaliwyd ym Mhrifysgol George Washington, Washington DC, 5-15 Chwefror 2019.

a gynhaliwyd ym Mhrifysgol George Washington, Washington DC, 5-15 Chwefror 2019.

TRADDODODD AUGUST DDARLITH WADD YN EI BRIFYSGOL FEL RHAN O'R CWRS

“Satire and the Art of Protest”, Coleg Eckerd, 11 Ionawr 2018

“Satire and the Art of Protest”, Coleg Eckerd, 11 Ionawr 2018