ANGHARAD DEVEREUX - YSGOLHAIG HERIAU BYD-EANG

Magwyd Angharad Devereux yn Abertawe ac mae’n hynod o falch o hynny. Mae astudio ym mhrifysgol ei dinas enedigol o dan nawdd y fath raglen ysgoloriaethau anhygoel yn ddim llai na breuddwyd wedi’i gwireddu i Angharad. Mae wedi bod yn dilyn gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ers blynyddoedd ac mae esiampl yr Ysgrifennydd Clinton wedi cael dylanwad go iawn ar ei bywyd ac felly pan gafodd wybod am yr ysgoloriaeth hon roedd hi’n credu bod tynged yn mynnu mai felly yr oedd i fod. Mae Angharad o’r farn bod tîm yr ysgoloriaethau yn anhygoel ac mae’r rhaglen wedi gwireddu’i disgwyliadau a llawer mwy!

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFAOL

Cafodd Angharad ei haddysg yn ysgolion gwladol Abertawe cyn mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio’r Gwyddorau Dynol, Cymdeithasol a Gwleidyddol. Cwrs rhyngddisgyblaethol oedd hwn a bu iddi arbenigo yn y pen draw mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Yn ystod ei hamser yng Nghaergrawnt, creodd rôl swyddog iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr ei choleg gan dreulio llawer o’i hamser allgyrsiol ar godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a mynediad i gymorth y brifysgol. Bu’n gweithio hefyd ar gynyddu mynediad i Brifysgol Caergrawnt o ysgolion gwladol, ac yn enwedig felly, ysgolion yng Nghymru.

Ar ôl iddi hi raddio yng Nghaergrawnt, dechreuodd Gwrs MSc yn yr LSE mewn Gwleidyddiaeth Fyd-eang. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n arbenigo mewn Globaleiddio, Strategaeth Gynhwysfawr yr Unol Daleithiau a Gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol. Ysgrifennodd ei thraethawd estynedig ar yr atyniad sydd gan ISIS i ymladdwyr tramor o Ewrop.

Tra bu’n astudio yn yr LSE, bu’n gweithio’n rhan-amser i AS o Abertawe a rhannodd ei hamser rhwng gweithio yn San Steffan a’r swyddfa etholaethol yn Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio ar ystod o faterion lleol a chenedlaethol megis llygredd aer a Brexit.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Mae Angharad yn defnyddio’i chefndir ym maes ymchwilio i eithafiaeth yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA) er mwyn cyfuno hyn â gwaith a diddordeb Sky yng nghyd-destun rheoleiddio ar-lein a diogelu plant, a hynny er mwyn ffocysu’i hymchwil gyfredol ar sut i ddiogelu plant ar-lein rhag cael eu ‘radicaleiddio’. Gan fod y cwrs hwn  yn ysgol y gyfraith yn Abertawe, mae’n dysgu rhagor am ffyrdd o ymdrin â’r pwnc hwn drwy hawliau dynol ac mae hi’n siŵr y bydd hyn yn cyfoethogi’i hymchwil. Mae gan Brifysgol Abertawe hefyd adran ymchwil seiberfygythiadau arloesol, felly dyma’r lle delfrydol i ymgymryd â’r gwaith hwn. Mae Angharad yn ymddiddori mewn dod o hyd i argymhellion polisi ar-lein ac all-lein i ddiogelu plant rhag bod yn agored i niwed yn sgîl cyfathrebiadau eithafol. Mae hi’n angerddol am wrthwynebu eithafiaeth gan fod ganddi gynifer o effeithiau andwyol ac eang ar bobl a’r gymdeithas.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AR GYFER Y DYFODOL

"Yn sgîl y rhaglen hon, cynyddu y mae fy angerdd dros ddymuno bod newidiadau byd-eang yn cael eu rhoi ar waith a gobeithio y galla i ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rwy wedi’u meithrin i wneud hyn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rwy mewn sefyllfa freintiedig i helpu pobl eraill nad ydyn nhw wedi cael yr un cyfleoedd a gobeithio dod o hyd i swydd, boed yn ymarferwr, neu’n swyddog polisi neu’n academydd lle galla i gael effaith gadarnhaol a bod yn eiriolwr dros y bobl hynny nad oes llais ganddyn nhw.”

GWAITH A PHROSIECTAU ANGHARAD Y MAE WEDI CYDWEITHREDU Â NHW A CHYMRYD RHAN YNDDYNT

Adolygu polisi’r llywodraeth gyfredol ym maes gwrth-eithafiaeth ar y cyd

ag ymchwilwyr eraill y Brifysgol

Adolygu polisi’r llywodraeth gyfredol ym maes gwrth-eithafiaeth

Prosiect Hard 2 Hack, Prifysgol Abertawe a Northumbria

Deall gwybodaeth plant am seiberddiogelwch

Prosiect Hard 2 Hack, Prifysgol Abertawe a Northumbria

Ehangu set ddata am ddefnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd

ar y cyd â’r adran seiberfygythiadau

Ehangu set ddata am ddefnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd