1. Mae hawlenni parcio'n ddilys rhwng:
- 1 Mehefin a 31 Mai ar gyfer staff
- 30 Medi a 30 Medi ar gyfer myfyrwyr
2. Darperir pob hawlen ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cytuno i gydymffurfio â rheoliadau parcio ac amodau darparu hawlen y Brifysgol a gall Cyfarwyddwr Rheoli Ystadau a Chyfleusterau ei thynnu'n ôl mewn amgylchiadau penodol.
3. Dylai pob cerbyd fod wedi'i drethu a dylai fod ganddo dystysgrif MOT a pholisi yswiriant dilys sy'n berthnasol i'w ddosbarth defnyddio cyn y darperir Mae proses wirio ar waith yn www.gov.uk/check-vehicle-tax.
4. Mae'n rhaid i ddeiliaid hawlen hysbysu gwasanaeth parcio ceir Ystadau drwy e-bostio estates-carparking@abertawe.ac.uk am newidiadau ym manylion y cerbyd fel y gellir llwytho'r wybodaeth i gronfa ddata camerâu ANPR. Os na wneir hyn, caiff Hysbysiad o Dâl Parcio ei roi'n awtomatig pan ddaw'r cerbyd i un o'r campysau.
5. Dylai hawlenni gael eu harddangos mewn man amlwg ar ffenestr flaen y car i alluogi staff diogelwch y Brifysgol i'w gweld yn rhwydd a chodi'r rhwystr yn ddi-oed.
6. Er mwyn annog defnydd o gerbydau allyriadau isel, bydd gan staff yr hawl i gael gostyngiad o 30%, ar yr amod bod POB cerbyd sydd wedi'i gofrestru am hawlen yn gymwys.
Meini Prawf Cymhwyso: Mae'n rhaid i allyriadau CO2 pob cerbyd fod o dan 120g/km
7. Darperir hawlenni dros nos i fyfyrwyr am ffi weinyddol o £10. Mae'r rhain yn caniatáu mynediad i Gampws Parc Singleton a Champws y Bae rhwng 1600 ac 0800 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar y penwythnos, o 1600 ddydd Gwener tan 0800 fore Llun. Gorfodir y rheolau ynghylch hawlenni y tu allan i oriau ar Gampws y Bae a Champws Singleton.
8. Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr meysydd parcio'r Brifysgol gydymffurfio â chyfarwyddiadau staff Diogelwch y Brifysgol. Mae gan y staff gyfarwyddiadau dieithriad i wahardd mynediad i geir heb hawlen barcio, hyd yn oed os yw'r gyrrwr yn ddefnyddiwr awdurdodedig.
9. Dylid deall arwyddion a marciau'r ffordd yn unol â'r diffiniad yn y Deddfau Traffig Ffyrdd, a rhaid cydymffurfio â nhw.
10. Gall perchennog/gyrrwr nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau a'r amodau defnyddio dderbyn hysbysiad o dâl.
11. Rhoddir hysbysiad o dâl ar gerbyd sydd wedi'i barcio ar diroedd y Brifysgol heb awdurdod, neu ar gerbyd wedi'i awdurdodi sydd wedi'i barcio mewn lle nad awdurdodwyd.
12. Rhoddir hysbysiad o dâl am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau parcio a'r amodau darparu fel a ganlyn:
- Heb barcio mewn lle parcio wedi'i farcio, neu heb barcio o fewn y llinellau.
- Hawlen wedi'i harddangos mewn cerbyd nad yw wedi'i gofrestru i ddeiliad yr hawlen
- Cerbyd wedi'i barcio ar ddydd pan nad yw'r hawlen yn ddilys
- Gwelir mwy nag un cerbyd sydd wedi'i gofrestru i grŵp neu hawlen rhannu car yn un o feysydd parcio'r Brifysgol (gan gynnwys y Cae Hamdden, Pub on the Pond, a'r Ganolfan Chwaraeon)
- Dim hawlen barcio ddilys na thocyn talu ac arddangos wedi'i arddangos
- Cerbyd wedi'i barcio am gyfnod hwy na'r amser a ganiateir mewn lle parcio arhosiad byr neu le parcio llwytho yn unig
- Hysbysiad dros dro wedi dod i ben
- Parcio mewn mannau lle na chaniateir parcio, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Heolydd â llinellau melyn
- Ardaloedd wedi'u marcio â llinellau croes
- Lleoedd parcio neilltuedig (dros dro neu barhaol)
- Ardaloedd dim parcio
- Lleoedd parcio i'r anabl (oni bai fod bathodyn glas dilys wedi'i arddangos)
- Lawntiau neu ardaloedd wedi'u tirweddu
- Palmentydd neu lwybrau cerdded
- Lleiniau gwyrdd
- Maes Parcio Ymwelwyr - Maes parcio 1 /maes parcio talu ac arddangos y Ganolfan Chwaraeon a Phwll Cenedlaethol Cymru, maes parcio ymwelwyr a maes parcio'r SoDdGA ar Gampws y Bae.
- Unrhyw ardal arall lle gallai parcio achosi perygl neu niwsans i eraill
SYLWER: 'gellir' caniatáu i ddeiliaid hawlenni barcio mewn ardaloedd cyfyngedig, yn amodol ar gymeradwyaeth a chaniatâd penodol y staff diogelwch, ar yr amod na fydd hyn yn achosi perygl neu rwystr. Bydd y staff diogelwch yn rhoi hawlen eithriad i gerbydau sy'n parcio â chaniatâd. Bydd y ddogfen hon yn dangos rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiadau ac amserau'r caniatâd. Mae'n rhaid arddangos hon mewn man amlwg nesaf at yr hawlen staff
13. Gofynnir i berchnogion cerbydau sy'n derbyn hysbysiad o dâl dalu'r Cwmni Rheoli Parcio Ceir yn uniongyrchol. Mae manylion y taliadau a'r dulliau talu ar yr hysbysiad o dâl. Os nad yw cerbyd wedi cael ei symud 24 awr ar ôl rhoi hysbysiad o dâl, bydd hysbysiad arall yn cael ei roi am bob cyfnod 24 awr nes symudir y cerbyd. Rhoddir hysbysiad symud ar ôl saith niwrnod ar gerbydau sy'n cael eu gadael am fwy na saith niwrnod. Ar ôl y cyfnod hwn, caiff y cerbyd ei symud ar gost y perchennog.
14. Bydd system camerâu ANPR yn cynhyrchu hysbysiadau tâl yn awtomatig ar gyfer cerbydau heb hawlen a lle nad yw'r gyrrwr wedi talu i barcio. Mae'r system yn caniatáu digon o amser i gasglu a gollwng teithwyr.
15. Gellir cyfeirio tramgwyddwyr mynych at sylw Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a gellir diddymu'r hawlen.
16. Bydd methiant i gydymffurfio ag arwyddion ffyrdd parhaol neu dros dro, neu â chyfarwyddiadau traffig gan y staff Diogelwch, yn cael ei gyfeirio at sylw Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a gellir diddymu'r hawlen.
17. Gwrthodir cais am hawlen ar gyfer 2020/2021 os bydd yr ymgeisydd heb dalu ffioedd hysbysiad o dâl parcio, tan fod y ffioedd hynny'n cael eu talu i'r Cwmni Rheoli Parcio Cerbydau.
18. Nid yw Prifysgol Abertawe a'i gweision a'i hasiantau'n derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod i gerbydau modur a/neu eu cynnwys, nac am anaf, colled neu niwed personol i yrrwr a/neu deithwyr mewn cerbydau o'r fath neu o'u cwmpas ar diroedd y Brifysgol oni ellir profi bod hyn o ganlyniad i esgeulustod, gweithred fwriadol neu fethiant i weithredu gan y Brifysgol, ei gweision neu ei hasiantau.
19. Os bydd deiliad hawlen yn newid ei gerbyd, rhaid diwygio manylion y cerbyd ar y fewnrwyd.
20. Nid oes angen Hawlenni Parcio i barcio beiciau modur ar y campws ond NI CHANIATEIR iddynt barcio mewn man parcio a ddynodir i geir. Mae lleoliadau niferus ar Gampws y Bae a Champws Singleton lle gellir parcio beiciau modur.
21. Codir tâl gweinyddol o £5.00 os bydd angen darparu hawlen newydd yn lle un a gollwyd neu a ddifrodwyd.
22. Bydd methiant i gydymffurfio ag arwyddion ffyrdd parhaol neu dros dro, neu â chyfarwyddiadau traffig gan y staff Diogelwch, yn cael ei gyfeirio at sylw Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau a gellir diddymu'r hawlen. Mae hyn yn berthnasol hefyd lle bydd safon y gyrru ymhell islaw'r safon a ddisgwylir gan yrrwr cymwys a gofalus, gan gynnwys goryrru neu yrru'n ddiofal/yn beryglus mewn mannau i gerddwyr ar Gampws Singleton a Champws y Bae.
23. SYLWER: Ni chaiff Hawlenni Parcio eu darparu ond i ymgeiswyr sy'n derbyn yr amodau hyn.