Myfyrwyr yn eistedd o amgylch bwrdd yn astudio

Fachhochschule Koln, y cyfeirir ati fel arfer fel TH Köln yw prifysgol fwyaf y gwyddorau cymhwysol yn yr Almaen. Mae TH Köln, sy’n cynnwys dau gampws yn Cologne, un campws yn Leverkusen ac un campws yn Gummersbach, yn cynnig mwy na 90 o raglenni Baglor a rhaglenni Meistr. Darperir llety drwy Kölner Studierendenwerk (KStW). Mae rhan fwyaf yr ystafelloedd cysgu’n cynnig ystafell mewn fflat a rennir, wedi’i dalfyrru i WG yn Almaeneg, lle cewch eich
ystafell eich hun a byddwch yn rhannu cegin â’ch cymheiriaid yn y fflat. Ceir fflatiau sengl hefyd neu efallai y byddwch am ystyried rhentu’n breifat; fodd bynnag, gall rhenti fod yn ddrud. Os ydych yn dewis cyflwyno cais am ystafell gysgu, bydd angen i chi wneud hyn drwy Kölner Studierendenwerk.

Ceir oddeutu 80,000 o fyfyrwyr yn Cologne ond ceir oddeutu 4,800 o ystafelloedd cysgu’n unig, fell mae galw mawr amdanynt! Gofynnir i bob myfyriwr yn TH Köln ddarparu tystiolaeth o yswiriant iechyd sy’n ddilys yn yr Almaen pan fyddant yn cofrestru yn y brifysgol. Gall y Tîm Ewch yn Fyd-eang ddarparu copi o yswiriant Prifysgol Abertawe i chi y gallwch ei gyflwyno os dymunwch. Fel arall, gall myfyrwyr yr UE ddarparu copi o’u Cerdyn Yswiriant Iechyd i Fyfyrwyr. Mae pob myfyriwr yn TH Köln yn talu ffi o oddeutu 260 ewro y semester. Mae’r ffi semester yn cynnwys y tocyn semester ynghyd â chyfraniad at bwyllgor cyffredinol y myfyrwyr yn TH Köln. Bydd angen i chi drosglwyddo’r ffi hon i TH Köln eich hun bob semester.