Myfyrwyr yn eistedd o amgylch bwrdd yn astudio

Wedi’i leoli yng ngogledd yr Almaen, byddwch yn treulio hafau twym a gaeafau cymharol oer yn Kiel, gyda thymereddau’n gostwng i -2 radd ym mis Ionawr ac weithiau’n oerach na hynny.   Byddwch yn teimlo’n gartrefol, o ystyried eich bod wedi treulio amser ger y lli yn Abertawe, gan fod Kiel hefyd yn ddinas ar lan y môr. Mae’n cynnig cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, diwylliant amrywiol a nifer o draethau Baltig hardd. Mae Prifysgol Kiel yn gartref i oddeutu 27,000 o fyfyrwyr ac mae saith enillydd Gwobr Nobel wedi gweithio yno, gan weithio yn y meysydd Cemeg, Ffiseg, Meddygaeth a Llenyddiaeth. Yn nodweddiadol, byddwch yn dechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Hydref ac yn gorffen ym mis Gorffennaf. Mae’r Ganolfan Ryngwladol yn cadw nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Mae’r ystafelloedd hyn yn eiddo ‘Studentenwerk’ ac felly ni ellir eu gwarantu. Gallwch gofrestru i gymryd rhan yn y Rhaglen Cyfeillion Astudio, lle byddwch yn cael eich paru â myfyriwr o’r Almaen a fydd yn eich helpu i ymgartrefu ar ddechrau’r semester.