Myfyrwraig yn sefyll o flaen wal sy'n dweud 'Prifysgol Wyoming: Cartref y Cowbois' gyda logo ceffyl â chowboi arno

Prifysgol sy'n derbyn grantiau tir yw Prifysgol Wyoming, yn Laramie, Wyoming. Mae'r ddinas ar wastatir uchel rhwng dwy gadwyn o fynyddoedd, sef cadwyn Snowy a chadwyn Laramie, oddeutu 7,165 o droedfeddi uwchben y môr. Oherwydd yr uchder, ceir gaeafau hir yma, gyda hafau byr a chymharol oer. Ceir oddeutu 11 o fodfeddi o law'n flynyddol yn Laramie ar gyfartaledd. Mae pedair neuadd breswyl a phedwar cyfadeilad o fflatiau gan y Brifysgol; gallwch ymweld ag atyniadau lleol megis Canolfan Treftadaeth America, Amgueddfa Gelfyddydau Prifysgol Wyoming, Amgueddfa Ddaearegol Prifysgol Wyoming, Amgueddfa Anthropoleg Prifysgol Wyoming ac Amgueddfa Pryfed Prifysgol Wyoming. Hefyd, ceir gwasanaeth lleol ar alw o'r enw SafeRide, a sefydlwyd yn 2000 i atal yfed a gyrru. Cowboys a Cowgirls yw timau athletau Prifysgol Wyoming a'u lliwiau yw brown ac aur. Mae gennynt ddau fasgot, 'Cowboy Joe' sy'n geffyl byw a 'Pistol Pete' sy'n fyfyriwr mewn gwisg. Mae gan y Brifysgol raglen awyr agored sy'n cynnig nifer o weithgareddau ar gyfer y rhai sy'n mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyrwyr

Myfyrwraig yn dal baner Prifysgol Abertawe yn yr awyr agored yn wyoming