Myfyrwyr yn cerdded o amylch campws gydag adeiladau bric coch a choedwig gyda dail yr hydref arnynt

Prifysgol ymchwil gyhoeddus sy'n derbyn grantiau tir yw Prifysgol Talaith Washington (WSU neu Wazzu), yn Pullman, Washington. Mae campws Pullman WSU yn cynnwys 620 o erwau yn rhanbarth Palouse, ac mae'n 2,500 o droedfeddi uwchben y môr ar gyfartaledd. Mae'r Brifysgol yn un o'r 5 coleg mwyaf diogel yn America ac mae ganddi gymhareb myfyrwyr-staff isel, sef 15:1. Enwau'r timoedd athletaidd yw'r 'Cougars' a'u masgot yw 'Butch T. Cougar' felly dangoswch eich cefnogaeth drwy wisgo'u lliwiau, rhuddgoch a llwyd.

Mae'r brifysgol yn gartref i Ganolfan Hamdden 160,000 o troedfeddi sgwâr i fyfyrwyr, sef yr un fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Mae'r Ganolfan Hamdden i Fyfyrwyr yn cynnwys traciau rhedeg dan do dyrchafedig, pedwar cwrt pêl-fasged, dau gwrt pêl-foli, llawr rhôl-hoci, pedwar cwrt pêl-raced, pwll nofio, jacuzzi â lle i 50 person, maes rhaffau, maes golff pencampwriaeth 7,305 o lathenni sgwâr a chyfarpar ymarfer corff a ffitrwydd amrywiol. Mae hinsawdd Pullman yn un gyfandirol, llaith, gyda hafau sych; yn nodweddiadol, ceir hafau twym, sych ac yna aeafau oer, eirïaidd gyda chyfnodau byr, trosiannol rhyngddynt. Ceir 21 o fodfeddi o law yn Pullman drwy gydol y flwyddyn ar gyfartaledd.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.