Arwydd wrth gatiau'r brifysgol gydag enw'r brifysgol arno

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol De Mississippi (USM), a lleolir ei phrif gampws yn Hattiesburg, Mississippi. Prifysgol De Mississippi yw un o dri sefydliad yn y dalaith ac mae'n un o 36 o sefydliadau'n unig yn y wlad sydd ag achrediad mewn theatr, dawns, celf a dylunio a cherddoriaeth. Mae'r Brifysgol yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau celfyddydol cyhoeddus bob blwyddyn, gan ddarparu profiadau diwylliannol i aelodau o'r cyhoedd. Gan gynnig mwy na 250 o glybiau a sefydliadau, ynghyd â digwyddiadau athletaidd mewnol a rhai arbennig, ni fyddwch yn brin o bethau i'w gwneud. Mwynhewch awyrgylch clos y campws a chefnogwch yr Eryrod Aur drwy wisgo'u lliwiau du ac aur. 

Prifysgol De Mississippi yw un o'r ychydig brifysgolion sy'n caniatáu gŵyl ddeuddydd ar gyfer Mardi Gras. Nid yw'r brifysgol yn cynnal dosbarthiadau ddydd Llun neu ddydd Mawrth cyn Dydd Mercher y Lludw. Mae gan Hattiesburg, sy'n llai na 2 awr o New Orleans, nifer o atyniadau lleol ac mae'n hwb wych ar gyfer teithio ymhellach, gallwch hefyd fwynhau'r cyfleoedd i drio'r bwydydd lleol mewn dref sy'n gyfoeth o hanes. Yma ceir hinsawdd isdrofannol llaith gyda gaeafau byr, mwyn a hafau poeth, llaith, felly cofiwch bacio ar gyfer yr haf!

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.