Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Istanbul, un o ddinasoedd mwyaf poblog Twrci, rhwng y Môr Du a Môr Marmara yng ngogledd Twrci ac mae'n dafliad carreg i ffwrdd o Wlad Groeg. Mae gan Istanbul hinsawdd gefnforol dymherus sy'n cael ei dylanwadu gan hinsawdd gyfandirol, gyda hafau poeth a mwll a gaeafau oer a gwlyb, gydag eira ar brydiau. Mae'n gartref i Brifysgol Dechnegol Istanbul, y 3edd brifysgol dechnegol hynaf yn y byd sy'n canolbwyntio ar y Gwyddorau, gan olygu ei bod yn ddewis ardderchog i fyfyrwyr cyfnewid sy'n astudio Ffiseg. Mae llety ar gael ar y campws a gall y brifysgol roi cyngor i fyfyrwyr ar eu hopsiynau. Mae Saesneg yn un o'r ieithoedd addysgu ond, os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhywfaint o Dwrceg yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr cyfnewid, mae cyrsiau iaith ar gael i ddechreuwyr.