Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Vigo yw'r ddinas fwyaf yn Galicia, gogledd-orllewin Sbaen ac mae'n gartref i Universidad de Vigo. Fe'i lleolir mewn amgylchedd hardd a naturiol sy'n gyfoethog ei ddiwylliant. Dim ond tair awr o daith yw hi o Vigo i Porto ym Mhortiwgal a thafliad carreg yn unig o Santiago de Compostela, Madrid a Bilbao ar y trên. Mae'n lleoliad delfrydol felly i deithio o amgylch Sbaen a phrofi'r holl ddiwylliannau sydd gan y wlad i'w cynnig. Mae amrywiaeth o lety ar gael, gan gynnwys neuaddau preswyl y brifysgol a llety preifat oddi ar y campws. Argymhellir bod myfyrwyr cyfnewid sy'n astudio Biowyddorau yn meddu ar lefel B2 mewn Sbaeneg gan mai Sbaeneg yw'r brif iaith addysgu. 

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.