Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Mae Oviedo, prifddinas Asturias, yn ddinas ag eglwys gadeiriol yng ngogledd Sbaen. Mae rhanbarth Astrias yn frith o bentrefi arfordirol a mynyddig y mae'n werth ymweld â nhw a threulio amser ynddynt. Ymhlith y trefi mawr eraill yn yr ardal mae Gijón, tref arfordirol fywiog â thraeth heb ei ail, ac Avilés. Mae'n hen dref ddiddorol gyda nifer o henebion sydd wedi'u rhestru ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae gan Brifysgol Oviedo enw da am ddarpariaeth addysgu o ansawdd uchel ac am ddatblygu ymchwil arloesol, ac mae ganddi adran Biowyddorau ardderchog.   Gall Gwasanaeth Llety Prifysgol Oviedo helpu myfyrwyr i chwilio am lety, ac mae amrywiaeth o lety ar gael gan gynnwys neuaddau preswyl y brifysgol, fflatiau i'w rhannu a lleoedd gyda theuluoedd lleol. Nid oes angen i chi allu siarad Sbaeneg er mwyn astudio yma!