Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir y brifysgol mewn ardal ganolog yn Krakow, Gwlad Pwyl sydd wedi'i dynodi'n safle treftadaeth y byd UNESCO. Fe'i lleolir ychydig o dan ddwy awr o'r ffîn â Slofacia i'r de a'r ffîn â'r Weriniaeth Siec i'r gorllewin. Gall y gaeafau fod yn oer iawn yn Krakow gyda thymereddau o dan y rhewbwynt. Mae'r hafau'n llawer cynhesach. Jagiellonian yw'r brifysgol hynaf yng Ngwlad Pwyl ac mae'n un o'r prifysgolion hynaf yn y byd. Mae gan y brifysgol rwydwaith weithgar iawn o Fyfyrwyr Erasmus sy'n trefnu llawer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn felly mae digon i gymryd rhan ynddo. Gall myfyrwyr fyw mewn neuaddau preswyl ond ni ellir gwarantu lle yn un o'r neuaddau hyn ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr chwilio am lety preifat.