Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Mae Ghent yn ddinas brifysgol 30 munud ar drên o Frwsel, ac mae ar y llinell o Frwsel i Bruges a’r arfordir. Mae’n ddinas llawn hanes, ac roedd yn un o’r dinasoedd mwyaf pwerus a chyfoethog yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Gellir gweld effaith hyn hyd heddiw, gyda’i phensaernïaeth drawiadol drwy’r ddinas i gyd. Mae digon i’w wneud a’i weld yn y cyffiniau, ac mae’r ardaloedd i fyfyrwyr yn llawn tafarndai, barrau a chlybiau. Ar wahân i’w sîn gymdeithasol fywiog, mae Ghent yn cynnig amgueddfeydd, eglwysi cadeiriol ac adeiladau hanesyddol eraill ar gyfer y rhai hynny sydd am fwynhau’r golygfeydd a’r diwylliant. Mae Prifysgol Ghent ymysg y 100 o brifysgolion gorau ac yn un o’r  prifysgolion blaenllaw yng Ngwlad Belg, sy’n golygu ei bod yn opsiwn deniadol i fyfyrwyr cyfnewid. Mae llety ar gael ar y campws i fyfyrwyr cyfnewid, ac anogir myfyrwyr i gyflwyno cais unwaith y byddant wedi’u derbyn i Ghent.