Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Lleolir dinas Grenoble yn ne-ddwyrain Ffrainc, yn rhanbarth Rhône-Alpes sy'n cynnwys yr Alpau Ffrengig. Mae'n gymharol oer yno yn y gaeaf, gyda diwrnodau o eira bron bob blwyddyn. Mae'r hafau'n boeth gan fod y mynyddoedd sy'n amgylchynu'r dref yn atal unrhyw wynt. Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei phrifysgolion a'i chanolfannau ymchwil wyddonol a leolir yng ngogledd-ddwyrain y ddinas. Mae gan y brifysgol chwe champws i gyd, a byddwch wedi eich lleoli ar gampws Grenoble Alps. Mae gan y brifysgol fywyd cysylltiadol bywiog gyda thua 300 o gymdeithasau myfyrwyr a nifer o fentrau allgymorth diwylliannol a chymdeithasol. O ran llety, gwarentir y bydd myfyrwyr cyfnewid sy'n cwblhau'r broses o wneud cais am lety erbyn y dyddiad cau yn cael eu dewis lety, felly dylai myfyrwyr gofio hyn pan fyddant yn gwneud cais i fod yn fyfyriwr cyfnewid.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.