Semester Dramor - Iaith Saesneg

Fel myfyriwr Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, efallai byddwch yn gallu cwblhau semester dramor. Bydd angen i chi ddechrau meddwl a fyddai hyn o ddiddordeb i chi yn ystod semester cyntaf eich blwyddyn gyntaf ac ystyried dod i’r sgwrs wybodaeth. Yna bydd angen cyflwyno cais i'ch coleg.

Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion partner canlynol, sy’n ddewisiadau poblogaidd i fyfyrwyr sy’n dymuno treulio semester dramor. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol wrth i nifer y lleoedd sydd ar gael a’r cyrchfannau amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg!Nid yw cofrestru am raglen â semester dramor yn gwarantu eich lleoliad dramor am semester. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ac fe'u trefnir yn unol â phroses dethol gystadleuol. Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn gyffredin eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. Gallai'r opsiynau sydd ar gael i chi ddibynnu ar fanylion y cytundeb Brexit a negodir gan lywodraeth y DU.