Rydym yn cynnig bwrsariaeth Patrick Carroll i fyfyrwyr therapi galwedigaethol Prifysgol Abertawe, sydd hefyd yn bodloni un neu fwy o'n Meini Prawf Ehangu Cyfranogiad ac wedi nodi hynny ar eich cais UCAS. Os ydych chi'n credu eich bod chi'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf isod, a hoffech chi gael eich ystyried, llenwch y Ffurflen Gais.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 9am ar 23 Tachwedd 2026.
Mae ein meini prawf Ehangu Cyfranogiad yn cynnwys myfyrwyr sydd:
- ag anabledd dysgu neu gorfforol, gan gynnwys salwch hirdymor ac wedi nodi hynny ar eu cais UCAS;
- wedi'u dieithrio o'u rhieni ac wedi nodi hynny ar eu cais UCAS;
- wedi treulio amser mewn gofal ac/neu sy'n ymadawyr gofal ac wedi nodi hynny ar eu cais UCAS;
- ymgeiswyr nad yw eu rhieni/gwarcheidwaid wedi mynychu addysg uwch ac wedi nodi hynny ar eu cais UCAS;
- yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch, anabledd, dibyniaeth neu broblem iechyd meddwl ac wedi nodi hynny ar eu cais UCAS;
- â chyfrifoldebau magu plant ac wedi nodi hynny ar eu cais UCAS;
- o deulu rhiant sengl neu a fyddai'n diffinio eu hunain fel rhiant sengl